Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

geill

geill

Beirniadu'n llym heb arlliw cydymdeimlad yw ei swydd, tra geill trasiedi neu 'gomedi', fel y'i diffinnir gan Dante neu Balzac, gynnwys bywyd yn ei amrywiaeth dihysbydd, ei feirniadu yr un mor llym ac eto anwesu dyn yn ei drueni.

O fedru cymuno ag Ynys Afallon, yr ysgogiad ysbrydol goruwchnaturiol hwn sydd tu hwnt i ddelwedd, y geill pob Bedwyr trist a distaw yn hyn o fyd wynebu'r drin.

Geill gŵr digon anllenyddol ysgrifennu'r iaith yn lân ei phriod-ddull, ac yn gain ar dro.

Fel hyn yn unig yr argyhoeddir fod bardd yn adnabod y byd yn ei gymhlethdod cordeddog, ac y geill greu rhywbeth sy'n feicrocosm o'r byd, yn cynnwys ei elfennau gwrthgyferbyniol, ei gariad a'i gas, ei hyfrydwch a'i aflendid, ei fwynder a'i dristwch, ei eni a'i farw.

Mae'r nifer mor fach rwan fel y geill pob un o'r cYlch fynd i'r Gadair bob tair neu bedair blynedd.

Geill ei fod yn golygu ffin neu oror.