Neidiodd un o'i llygaid o'i phen yn wyrthiol pan geisiodd ei thad drefnu priodas iddi.
Y mae'n cyfeirio at Brif Weinidog a geisiodd ei ladd ei hun cyn mynd i'w swydd ac am un arall a oedd yn ddibynnol ar gyffuriau ac ar alcohol.
Gofynnodd am gael gweld Thomas Parry, ac mi geisiodd ddweud rhywbeth wrtho, ond ni fedrai ei ddeall.
Bu rhaid i awdur Pedeir Keinc y Mabinogi weithio allan ei iachawdwriaeth ei hun pan geisiodd ef egluro fod darganfod baban yng Ngwent-is-coed a'i fagu yno yn digwydd tra oedd Rhiannon yn dioddef ei phenyd yn Arberth, a gorfu arno geisio ffordd i ddwyn y ddau hanesyn yn un.
Pan geisiodd Owain ddwyn yr achos gerbron seneddwyr Lloegr chwarddon nhw am ei ben a gofyn, 'Beth yw'r ots gennym ni am y corgwn troednoeth hyn?' Ond roedd Owain yn llawer mwy na rhyw gnaf o wrthryfelwr Cymreig.
Roedd y rhain yn llwgu, a phan geisiodd Mrs Chalker ddosbarthu rhyw ddwsin o Milky Ways, fe aeth yn sgarmes anwar.
Uwch paned mewn caffi yn adeilad y Senedd, fe geisiodd esbonio beth oedd y sefyllfa wleidyddol; fel yr oedd Sajudis wedi chwalu ar ôl cael annibyniaeth.
Pan geisiodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Nicholas Edwards, adael maes yr ^Wyl yn Nyffryn Lliw ar ddydd y coroni, eisteddodd nifer o aelodau o Gymdeithas yr Iaith o flaen ei gerbyd i'w rwystro.
Gwelwyd hyn ychydig amser yn ôl pan geisiodd y cenedlaetholwyr berswadio Cyngor Dyfed i gael sistem gyfieithu ar y pryd.
Go drapia na wnes ymholiadau manwl wrth y boi bach 'na mewn cyfnas oren oedd yn llafarganu ac yn ysgwyd clychau ynghanol y stryd fawr ddoe, neu ofyn i'r cwpwl ifanc yna geisiodd werthu cylchgrawn wrth y drws a oedd modd prynu cit dathlu'r Nadolig Amgen trwy'r post?
Y noson honno cafodd Gwaethfoed a Morfudd lety gyda chawr o'r enw Carwed Feudwy wrth odre Rhiw Garwedd ond pan geisiodd y cawr lofruddio'r ddau yn eu cwsg fe laddodd Gwaethfoed hwnnw hefyd.
Uwchben yr oedd cannoedd o genedlaetholwyr a geisiodd rwystro gorymdaith ceir Lerpwl rhag cyrraedd y ffordd a redai dros ben yr argae.
Pan geisiodd y gŵr camera ddringo i mewn i'r car, gyrrwyd y cerbyd i ffwrdd gan lusgo'r dyn ar ei hyd drwy'r mwd.
Chwarae teg i 'Nhad, mi geisiodd ei orau glas i'm gwneud ac i'm cadw'n Gymro .