Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

geith

geith

Geith Ifan ddŵad i mewn ar ei ben ei hun 'ta, Mrs bach?

Ac os ydi hi'n cau gwrando mi sleifia'i drwodd i'r cefn pan ga'i chefn hi a dy adael di mewn felly ac mi geith hi weld wedyn na tydan ni ddim yn wynt ac yn law drwg drwg go iawn.

"Reit 'ta lads, draw i'r Sailing, a mi geith y cono pia hwn weld great balls of fire," meddai Sam a chwerthin yn uchel ar ei ddoniolwch ei hun.

Mae Morys y Gwynt yn y drws yn gofyn geith o ddŵad i'r tŷ.

Geith yr hwch deithio am bris ci ylwch.' Aildaniodd y siandri gyda phesychiad a jyrc a chychwynnwyd ar y daith.

Mi geith o syffro am hyn'.

ac os ceith o ddwad i mewn, a geith Ifan y Glaw ddwad hefo fo?