Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gelfydd

gelfydd

Awdl alegorïol gelfydd yn y modd y mae hi'n rhoi gwedd gyfoes i chwedl Branwen yn y Mabinogi.

Disgrifir siom Elin yn gelfydd, wrth i'r awdures gymharu'r profiad â chanfod siop ddillad ar gau a dadlennir llawer am greulondeb henaint trwy gyfrwng y ddelwedd.

Yn Elland Road, roedd Real Madrid yn rhy glyfar a rhy gelfydd i Leeds.

Mae ailadrodd y gair "Dacw% yn diogelu'r pwyslais gwrthrychol ar yr hyn yw Crist ond y mae'n ei briodi'n gelfydd iawn â'r pwyslais ar ystyr y gwaith gwrthrychol i'n bywyd goddrychol ni,

Yn raddol, drannoeth, gwawriodd arnom ein bod wedi ein dal yn llwyr gan y Bos, a'i fod ef wedi bod yn tynnu coes yn ddidrugaredd, ond gan fod y manylion tybiedig wedi'u plethu i mewn i r cefndir a'r lleoliad dilys yn gelfydd iawn, hyd yn oed tadogi'r stori ar Mr Merfyn Morgan, y Prif Uwch-Arolygydd â gofal am Adran "D" o Heddlu Dyfed-Powys, roeddem wedi credu'r stori'n llwyr.

Mae wedi'i wneud yn gelfydd ar siâp llyfr agored o bren derw a rhai o gymeriadau gweithiau Mary Vaughan Jones (rhai fel Tomos Caradog, y llygoden unigryw) wedi'u llunio mewn arian yn sefyll ar lwyfan o'i flaen.

Ond ni fyddai perfformiad o'r fath safon yn bosib heb lafur ymroddedig ymlaen llaw gan yr athrawon eraill, a chymorth y mamau dawnus oedd wedi addurno'r llwyfan a'r neuadd yn gelfydd a gwneud llawer o'r gwisgoedd tlysion.

Dadl resymegol wedi ei hadeiladu'n gelfydd, e.e.

Gall yr awdures ysgrifennu'n gelfydd, creu rhai cymeriadau cofiadwy a llwydda i gadw diddordeb y gynulleidfa gydag amryw o droadau diddorol yng nghynffon y straeon.

Y mae ôl llaw gelfydd person Mallwyd ar y Beibl newydd, a'r iaith yn gynnil a chywir a glân.

Mae stori%au Mihangel Morgan yn ddyfeisgar, yn llawn troeon annisgwyl, yn gelfydd eu gwead, weithiau'n llenyddol, artistig neu esoterig eu diddordeb.