Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gell

gell

Gadawyd Enlli wedyn am hydoedd a theimlai y byddai unrhyw beth yn well na thawelwch llethol y gell unig.

Darfu'r tridiau yn y gell gosb.

Brithir ei atgofion a'i fyfyrdodau gan gyfeiriadau at arwyr Iwerddon, yn enwedig wedi iddo ganfod fod carcharorion o Wyddyl wedi bod yn yr un gell ag ef o'i flaen.

Mae ei gyfaill yn cadw llygad barcut ar dy gydgarcharorion sydd wedi eu gorfodi i sefyll yn erbyn y wal ar ochr bella'r gell.

Os bydd un siliwm sengl hir yn gysylltiedig a'r cudyn silia, bydd bob amser yn codi allan o gell sengl sy'n ffinio ar y clwstwr celloedd.

Roedd wedi sglefrio ar draws y gell ar ei fatres nes bwrw'i gorun yn erbyn pibell drwchus yr ychydig wres.

Bryd hynny, 'chaech chi ddim hyd yn oed gwisgo sbectol haul yn Omam Gan fod ei syniadau mor od, carcharwyd y mab gan ei dad a bu yn ei gell am dair mlynedd.

Yr oedd y carchar yn y nos fel claddfa, pob carcharor yn ei gell fel pe byddai mewn arch ar ei sefyll ac yn unicach na chorff yn ei amdo, a'r goleuadau bychain y tu allan i'r celloedd fel y lampau bychain hynny ar feddau mynwentydd Catholig y cyfandir.

Niwron primaidd yw'r gell sengl hon hefyd ond mae'n dangos nifer o nodweddion hynod.

Yn anffodus, roedd pob un o'r banciau a chymdeithasau adeiladu (ag eithrio'r NatWest) wedi gwrthod gwneud hyn, er i'r Gell eu rhybuddio nhw rhyw chwe mis yn ôl, ac er i Gell Caerdydd ymgyrchu yn eu herbyn ers amser.

Rhai blynyddoedd yn ol, archwiliwyd y cirysau ochrol blaen yn y miscrosgop electron ac ymddengys bod pob cirws yn tarddu o un gell, a'i fod yn cynnwys dwy res gyfochrog o silia.

Roedd cilwyntoedd main yn sgrialu trwy'r gell, a hiraethai hyd yn oed am ei gell arferol.

Er i aelodau a swyddogion y gell fod yn sensitif iawn i ddymuniadau yr aelodau hynny oedd yn gweithio yn y Llyfrgell penderfynwyd mynd ati i wthio'r cwch i'r dr gyda llythyr agored yn y Wasg.

Gwaeddai, crochlefai a rhuai nerth esgyrn ei ben, a phan aeth i gicio drws ei gell, clywodd y ceidwad ef.

Gyda'r newyn yn y gell gosb daeth yr hiraeth am sigaret; hiraeth am glywed ei haroglau, am osod y tân wrth ei blaen melyn, gollwng y mwg glas allan rhwng ei wefusau a'i weled yn ymdorchi i'r awyr.

Agorwyd drws ei gell; rhuthrodd tri cheidwad i mewn iddi; trawsant y carcharor i lawr â'u clybiau a chariwyd Bili Mainwaring yn lledfyw i'r wallgofgell.

Tynnwyd y disc melyn ag arno'r llythrennau BC oddi ar ddrws ei gell.

Yn y cudynnau hyn mae'r silia yn tarddu o gell sengl sy'n amgau cell chwarren.

Wedi i'r fflach o olau gilio, gwelodd gyda syndod ei fod yn sefyll yno gan ddal clamp o gleddyf addurniedig, a gemau lliwgar ar ei charn, a'i llafn mor ddisglair nes ei bod yn goleuo'r gell gyfan.

Yr oedd yr hen gell yn olau, yn eang ac yn serchus o'i chymharu â'r gell gosb.

Yr oedd cael cwyro'r edafedd a phwytho'r cynfas yn dasg o lawenydd ar ôl segurdod cysglydd y gell gosb Pan oedd Myrddin Tomos ar gysgu un noson deffrowyd ef gan sūn gweiddi ac ysgrechian yn y gell uwch ei ben.

Yn ogystal ag atgenhedlu rhywiol, fe geir mwtaniad mewn natur, lle caiff gwybodaeth enetig yn y DNA ei newid yn ddamweiniol - er enghraifft, wrth i ymbelydredd naturiol effeithio ar sail rhai o'r adweithiau cemegol yn niwclews y gell.

Bryd arall, yr oedd muriau'r gell yn nesu ato, yn cau amdano ac yn bygwth ei wasgu i faarwolaeth.

Mae'n rhaid defnyddio'r hyn a elwir yn olwg berifferol ; mae dau fath o gell yn retina'r llygad - y 'rodenni' a'r 'conau'.

Ar ôl gorwedd am dridiau ar lawr caled y gell gosb, yr oedd cael gorwedd ar wely estyll yn orffwystra.

Hynny yw, dau ffibril canolog a naw ffibril perifferol, i gyd wedi eu hamgau mewn gwain gyffredin yn cynrychioli pilen y gell.

Mae gan Gwyn Thomas gerdd drawiadol yn darlunio carcharor gwleidyddol yn cadw ei bwyll trwy ymgyfeillachu a chrocrotsien yn unigrwydd ei gell.

Gwelai Myrddin Tomos yn y gell gosb y meysydd moethus, maethlawn ar lannau Tywi, y cnydau cyfoethog, y bencydd beichiog,,a'r gweunydd sa oedd mor esmwyth-lyfn â lawntiau.

'Fe fydd yn ein rhoi ni yn y gell os awn ni yn agos i'w swyddfa, Tudur.'

Llamai'r carcharor gan lawenydd am ei fod yn cael dyfod i'w hen gell gartrefol, a neidiai fel hydd.

Funud neu ddau yn ddiweddarach, pan ddaeth gweision Medrawd heibio i gymryd golwg ar y carcharorion, cawsant fod y ddwy gell yn wag.

Felly, yn ddidrafferth ac yn ddistaw rydych yn gadael y gell gydag arfau'r milwyr yn eich dwylo, yn barod i wynebu'r gelyn.

Daeth awydd arno ddarllen llyfr a darllen llyfr Cymraeg er mwyn dianc ar ei ofnau a moelni caled y gell.

'Nôl wedyn i'r gell.

Dôi ysbrydion i'r gell i'w boenydio, yr ymlynwyr a'r dialwyr i'w wawdio a'i boeni, i'w dynnu wrth ei ddillad a hisian yn ei wyneb fel seirff.

Yr eiliad honno, yn nhywyllwch y gell, daeth rhyw newid rhyfedd dros wyneb Myrddin.