Ceir ystadegau yn adroddiad y Comisiwn Datgysylltiad (fel y gelwid ef yn ddigon hwylus) ar gyfer y gwrandwyr ond rhybuddir ni na allwn ddibynnu arnynt.
Urdd oedd hon a roes sylw arbennig i addysg grefyddol ymhlith lleygwyr er mwyn cryfhau defosiwn a phietistiaeth yn eu mysg yn ôl dulliau y devotio moderna (defosiwn modern) fel y'i gelwid.
Roedd tŷ'r gweinidog -Bodathro, fel y gelwid ef - yn ffermdy, mewn gwirionedd, gyda nifer o dai allan, gardd a pherllan fawr lle y cadwai ei dad nifer o ieir.
Yn yr amser yma nid oedd galwad am ddim ond cerrig bras neu Fetlin fel y gelwid hwy.
Dywedir bod boneddiges yn byw yn yr ardal ar y pryd, a oedd yn dra gelyniaethus tuag at bobl y capel, neu 'y pengryniaid' fel y'i gelwid hwynt, ac iddi godi ffermdy Groes Gwta rhwng y Capel a'r ffordd fawr er mwyn ei guddio o'r golwg wrth fynd a dyfod ar ei theithiau.
Intermediate Science y gelwid y cwrs a golygai hynny astudio Cemeg, Ffiseg, Llysieueg a Swoleg i'm hymgymhwyso at y brifysgol yng Nghaeredin y flwyddyn ddilynol.
Cafodd y fraint o arlwyo gwledd i'r ddiweddar Frenhines Mary, ac wedi hynny, i'r Dywysoges Elisabeth (fel y'i gelwid bryd hynny), y Tywysog Philip, yr Arglwydd Mountbatten a llu o enwogion eraill, megis Mrs Eleanor Roosevelt, Syr Winston Churchill a Dug Caerloyw.
fel y gelwid ef.
Fel ei gyd-athrawon yn Adrannau Cymraeg eraill tri choleg y Brifysgol, roedd yn rhaid iddo gynhyrchu rhan fawr o'r tetunau llenyddol y gelwid arno i ddarlithio arnynt ac aeth llawer o'i ynni a'i amser i gyhoeddi defnyddiau felly - argraffiad o gywyddau Goronwy Owen, a blodeugerdd o farddoniaeth yr Oesoedd Canol.
Etifeddai'r naill ddosbarth eu heiddo yn ôl y gyfraith Seisnig, a olygai etifeddu gan y cyntafanedig, a'r llall yn ôl y gyfraith Gymreig (neu Gyfraith Hywel fel y'i gelwid), a olygai rannu'r etifeddiaeth yn gyfartal rhwng meibion, a hynny o fewn uned deuluol ddiffiniedig.
Bwydid yr ymwybod hwn gan gerddi proffwydol y beirdd brud, fel y'u gelwid, a addawai atgyfodiad gogoneddus i'r genedl a buddugoliaeth ar ei holl elynion.
Bryd arall gelwid gweinidog i wasanaethu nifer o eglwysi, a chyfrannai pob un o'r canghennau tuag at ei gynhaliaeth.
Cyn i'r ddwy sobri rhuthrwyd hwy i Ddinas Ffaraon, fel y gelwid y bryn yn Eryri, eu sodro mewn twll digon gwlyb a'u claddu o'r golwg.
Celtiaid y gelwid hwy, a'u harfer oedd ymosod ar lwythau eraill gan eu caethiwo a byw ar yr ysbail.
Wedi blwyddyn yn yr Ysgol Ganolraddol bu'n rhaid i Euros, a hefyd ei frawd hŷn, Thomas a oedd wedi cael ei dystysgrif 'Junior' fel y gelwid hi, adael yr ysgol a chwilio am waith.
Ar ôl cyfnod byr o fwndelo wrth y shêr, crud y felin fel y gelwid y gwaith hwnnw, aeth Phil i ddala yn y felin.
Gelwid ef y gaffer.
Malwyr y gelwid y dynion hyn; yr oedd ganddynt ordd fawr yn pwyso rhywbeth o un pwys ar bymtheg i un pwys ar hugain; math o erfyn oedd hwn a chanddo un pen fflat a'r pen arall wedi ei finio, a choes bren ryw ddwy droedfedd o hyd iddo.
'Clem patro' y gelwid o.
Gelwid ef y Tywysog mawr ond marw a wnâi pob dyn byw.
Dyna pa bryd y gelwid ar hofrennydd.
Ar ddiwedd y daith honno roedd yn ofynnol i ni wedyn gario un o'n cydfilwyr ar ein hysgwydd am gan llath, yna gwyro ar un pen-glin, a saethu at darged, ac os na lwyddid i gael hanner yr ergydion naill ai i'r canol neu o fewn ffiniau'r magpie' - fel y'i gelwid - rhaid fyddai gwneud y daith unwaith yn rhagor.
Yr enw a roddid ar gymuned felly oedd clas a gelwid aelodau cymuned felly'n glaswyr.
Gelwid y pentwr hwn yn wats (term morwrol yn golygu gwyliadwriaeth), pedair wats bob dydd ym mhob melin, a'r dalwr oedd yn gyfrifol am eu rhoi'n daclus yng nghefn y felin o fewn cyrraedd y bwndelwr a'r shêrwr.
'Roedd i olwyn bedair rhan - y bwl, y camogau, neu, fel y'u gelwid yn bur aml, spôcs, y cwrbin ac yn ddiwethaf y cylchyn haearn.
Llyfr ar gerdd dafod oedd hwn yn cynnwys talfyriad Cymraeg o ramadeg Lladin ysgolion yr Oesoedd Canol - y dwned, fel y gelwid ef gan y beirdd Cymraeg.
Gelwid ef yn Maecenas - yn noddwr llenyddol a chynghorwr - gan ei gâr William Vaughan o Gorsygedol, cyfaill mawr Ben Johnson.
Gelwid y broses o gynhyrchu'r platiau yn dwymad, ac yr oedd yn rhaid rowlo'r platiau mewn pum part fel rheol, y tew (sef y barrau haearn tew), y senglau, y dyblau, y pedwarau a'r wythau.
Hyd yn oed y bobol sy'n y Poplar." Y Neuadd Ddirwestol yn y Poplar, ar y gornel rhwng y Stryd Fawr a Stryd Sophia a ddefnyddiai'r Genhadaeth Gristnogol, fel y gelwid hi ar y pryd.
Cynnal Gemau'r Gymanwlad, neu Gemau'r Ymerodraeth fel y'i gelwid ar y pryd, yng Nghymru.
Yr hyn a'm synnodd oedd i'r Dr Jamieson alw'r asgwrn bychan hwnnw yn 'helm y Galiad' a hynny o bosib ar y sail iddo fod wedi darllen fel y gelwid ein cyndadau ni - a oedd i'w cael ym mhobman yn y Gogledd - gan y Rhufeiniaid yn Gallii.
Cymeriad adnabyddus arall oedd Williarn Jonff y Gof, neu 'Wil Fach-wen' fel y'i gelwid.
Treuliodd flwyddyn ar gwrs y BD cyn cael ei dderbyn i Gymdeithas (fel y gelwid hi'r pryd hwnnw) y Santes Catherine, Rhydychen.
'Cyfaill yr iau' y gelwid sicori gan Galen, y meddyg Groegaidd o'r ail ganrif OC Yn ôl coel gwlad ar hyd y canrifoedd yr oedd sicori'n medru glanhau'r corff o wenwyn.
Ar ôl y gwasanaeth dechreuol gelwid ni'r plant i'r blaen a gelwid ar un o'r oedolion "i wrando adnodau'r plant".