Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gelynion

gelynion

Dyna ddull Natur o'i diogelu rhag ymosodiadau ei gelynion.

Dim ond gelynion Cymru a Chymreictod sy'n honni y buasai'r cenedlaetholwyr Cymreig wedi cydweithredu'n llon â'r Ellmyn petai lluoedd Hitler wedi goresgyn Prydain.

Ar ôl rhyw ddeng munud o'r distawrwydd yma, daeth llais dros yr uchelseinydd i gyhoeddi y byddai 'cwshti' yno'r noson ganlynol yn ogystal, ac y byddai'r "hogiau lleol yn siwr o orchfygu% eu gelynion y tro nesaf.

"Ble mae Bwrdd yr Iaith?" Erbyn hyn, saith mis ar ôl dechrau gweithio'n statudol, mae swyddogion gelynion penna'r cwango iaith yn siglo'u pennau ac awgrymu na ddylech chi ddisgwyl dim arall ond distawrwydd a diffyg gwneud.

Prif amddiffyniad cwningod rhag eu gelynion yw eu chwimder a'r ffaith eu bod yn rhybuddio'i gilydd o berygl trwy guro'r ddaear â'u traed a thrwy ddangos y gwyn dan y gynffon wrth ddianc am ddiogelwch.

Weithiau fe fyddai hi yng ngharchar Degannwy yn cadw cwmni i'w gwr, yr arglwydd Gruffudd, neu bryd arall yn pledio'i achos efo gelynion y Tywysog.

Dinas gref â phyrth cedyrn iddi oedd yno, a gwylwyr yn gofalu na nesai gelynion.

Wrth ymladd etholiadau yr ydych yn creu gelynion, gelynion grymus, ond wrth gwrs dyna beth y mae'n rhaid i'r grŵp ymwthiol ei osgoi ar bob cyfrif.

Roedd hi'n haws maddau i'r rhai a fu'n Frenhinwyr pybyr erioed am geisio adennill y wlad i Charles Stuart nag i'r gwrthgilwyr oedd yn barod i ymuno a'u gelynion!

Caniatâ inni adnewyddiad ysbrydol nerthol i'n deffro ni o'n cysgadrwydd ac i roi inni'r nerth i ailgodi'r muriau a ddrylliwyd ac i gau'r bylchau y rhuthrodd gelynion y Ffydd drwyddynt i anrheithio dy winllan.

Nid, sylwer, polisi Casement a Masaryk, nid y polisi a awgrymid gan yr hen slogan Wyddelig, "...", nid cefnogi gelynion Lloegr, na hyd yn oed eu defnyddio er mwyn gwanhau Lloegr.

Yn y gerdd mae Justine Merritt yn gweddi%o dros bopeth a gâi ei ddinistrio, gan gynnwys ei ffrindiau a'i gelynion, y rhosyn, y gragen ar lan y môr, a'i hwyres fach newydd.

Unwaith y sefydlwyd Lloegr fel cenedl-wladwriaeth, yr oedd hi'n anochel y byddai'i brenhinoedd yn meddiannu Cymru, yn rhannol, wrth gwrs, am fod brenhinoedd yn y dyddiau hynny yn hoffi meddiannu llefydd, ond hefyd am y byddai Cymru yn fygythiad parhaus i Loegr, boed yn fygythiad uniongyrchol o du'r Cymry eu hunain neu o du gelynion tramor.

Dylid sylwi hefyd nad yw'r cofnod yn dweud ai gelynion i'w gilydd, ai cynghreiriaid, oedd Arthur a Medrawd.

Eryrod, cathod gwylltion a llwynogod yw eu gelynion naturiol hwy yn yr Alban ac os bydd y gelynion hyn yn fygythiad gwirioneddol mewn cylch arbennig, ymfuda'r ysgyfarnogod i ddiogelwch rhyw gylch arall.

'Yn yr ornest ddigymar hon darganfyddwn ddwy ffaith sy'n dwn lles i'n heneidiau: sef bod ffyddlondeb a thynerwch i'w cael ymhlith y gelynion a bod y brofediagaeth i gyd yn deillio o'r sarhad a roddodd Pwyll ar Wawl fab Clud.

O'r herwydd, tybiai Saunders Lewis a Maurras, fel y gwna deallusion y Dde yn gyffredinol, mai gelynion Ffrainc a'r gwareiddiad Ewropeaidd oedd Voltaire, Rousseau a Diderot, yr hanesydd rhyddfrydig, Jules Michelet, a llenorion fel Victor Hugo, Emile Zola ac Anatole France; pob un, yn wir, o'r llu ardderchog o feirdd, llenorion, cerddorion, artistiaid ac athronwyr a gytunai â Gruffydd mai 'trefn cynnydd ydyw Gwrthryfel cynyddol yn erbyn awdurdod'.

Gwersylloedd gelynion sydd wedi ffoi ydynt.

O safbwynt gelynion y canu caeth, yr oedd yr awdl hon yn brawf arall o amharodrwydd ac anallu'r beirdd caeth i wynebu bywyd fel ag yr oedd ac i symud ymlaen gyda'r oes.

Cyn dyfodiad y clwy Myxomatosis yr oedd y wlad yn gyffredinol wedi ei goresgyn ganddynt ac yr oedd miliynau yn cael eu dal a'u gwerthu - eu trapio a'u maglu lawer ohonynt, ac oherwydd hynny yr oedd eu gelynion naturiol megis bronwennod, gwenci%od, ffwlbartiaid, cathod a chŵn hwythau yn cael eu dal.

Mae digon o elynion gan amaethyddiaeth heddiw, hab ganiatau gelynion oddi mewn.

GELYNION Y GYMRAEG gan Morgan D Jones

Yn y rhesi cwpledi y mae'r cythreuliaid yn cael cyfle i dynnu darlun o Gymru Ymneilltuol o safbwynt ei gelynion.