Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gen

gen

Trefnir cyfres o gyfarfodydd grwp dros yr wythnosau nesaf yn y Gogledd a'r De, felly os oes gen ti ddiddordeb, cysyllta ag un o swyddogion y grwp neu â'r swyddfa yn Aberystwyth.

Gan mai penwythnos yn unig oedd gen i, byddai'n ddelfrydol hedfan i Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd felly dyma ddechrau ar y gwaith o holi am brisiau tocynnau i Gaerdydd a Bryste.

Cais sydd gen i ar i bob cwmni neu fusnes gysylltu a mi yn Sain fel y gallwn ddangos ffrynt unedig gref yn hyn o beth.

'THERE ISN'T!' 'Ddrwg gen i, ond mae'n edrych yn debyg iawn i mi.'

"Doedd gen i ddim rhyw lawer o feddwl ohoni hi, wir.' 'A chwithau'n mynd i bregethu,' meddai.

Frawd bach, mae gen ti broblemau, 'toes!

Dydw i ddim yn siwr ai'r math o athrawon na fedran nhw eistedd, gwrando a thrafod yn gall fyddwn i eu heisiau mewn ysgol lle byddai gen i blant.

Mae'r gair a luniodd yn bwysig, oherwydd ei bod yn rhaid i'r gair sydd gen i i'w gynnig gael ei gysylltu ag ef.

'Do, fe welais Jonathan,' ochneidiodd Mathew, 'ond mae gen i newydd enbyd.' 'Mae wedi marw,' casglodd Non yn dawel.

`Gyda phleser,' ebe Harri, `ond i chwi fod yn gyfrifol i mi am ganpunt os digwyddiff rhwbeth iddo.' `Dim peryg,' ebe'r Yswain, ac ychwanegodd, `ond tyrd dy hun efo ni, mi fydd yn dda gen i dy weld yn y cwmni.' Diolchodd Harri iddo, a theimlai yn hynod o hapus fod ei feistr tir wedi ei wahodd i ymuno â'r boneddigion oedd yn myned ar ôl y cŵn ddydd Llun, ac ni wnaeth efe ddim arall bron hyd y dydd penodedig ond ei daclu ei hun a'i geffyl ar gyfer yr amgylchiad.

Ond does dim dewis gen ti, fodd bynnag.

Mae'n ddrwg gen i' Sut medrai hi fynd yn ei blaen?

Pan fyddid yn sôn am ei gampau'n gwagio siopau o'u nwyddau oll byddai hithau'n dal dano'n dweud, 'Wel, ddaru o ladd neb, yn naddo?' A phan ddaru o ladd Huws Parsli am y tro cyntaf dyma hi i'r adwy eto: 'Toedd dda gen i mo'r hen gingroen afiach beth bynnag.

Cyfarchiad y Diawl Cecfryn Ifans Un bore oer ym mis Rhagfyr, a'r barrug yn gen ar lafnau'r celyn gwyrdd a'r eiddew, deffrowyd Morfudd gan sþn cnocio ffyrnig ar ddrws ei thþ.

Am gael gair efo Mr Rees cyn iddi agor, medda' fo." Does gen i ddim cystal trwyn a Snowt am stori, ond mae gen innau glust sy'n gwrando.

'Trachwant,' meddwn i wrthyf fy hun yn hunan-gyfiawn, gan wybod fod yn gas gen i siopau, ac eithrio siopau llyfrau.

Pe bai'n rhaid i mi ddewis rhwng y frech goch a chwmpeini Matthew'r Sgidia', mi fasa'n well gen i y frech goch." Chwarddodd Rees.

Mae'n ddrwg gen i os dychrynais i chi.

"Mae e wedi ei anfon i Dy'r Arglwyddi nawr, ond mae gen i deimlad y bydd yn cael ei anfon nôl i Dy'r Cyffredin.

Wi'n dweud hyn am 'i bod hi wedi gofyn i ti helpu gyda threfniade'r angladd - a chan fod rheiny nawr ar ben, fydd gen ti ddim esgus dros alw'n rhy amal yn Maenarthur.'

'Cewch chi ffisig gwyn gen i .

Doedd Mam ddim wedi dweud peth clên o gwbl amdanon ni, Doedd dim ots gan Robat John ond roedd ots gen i.

Doedd gen i ddim iot o ddiddordeb ynddi hi na'i chydnabod - ar wahân i'w mam-gu.

Ond yr un ateb gaf i ran amlaf: 'Dim arian ar hyn o bryd; rydych eisoes wedi cymryd mwy na'ch siŵr.' Gobeithio y bydd gen i ddigon o arian i dalu am hwn.

Ond doedd dim digon o le iddyn nhw i gyd mewn un gwely, ac mi fydden nhw'n gweiddi, "Rydw i bron _ syrthio o'r gwely!" "O, rydw innau bron _ syrthio!" "Does gen i ddim digon o le!" "Does gen innau ddim digon o le chwaith!" "A rydw i'n cael fy ngwasgu yn y canol!" Felly doedd yr un o'r dynion bach od yn gallu cysgu'n gysurus, ac roedden nhw wedi blino'n l_n.

Petai gen i'r amser mi fyddwn i'n gwneud gwaith ymchwil ar yr hyn sy'n peri i bobol chwerthin?

Gafaelodd yn ei law ac meddai, 'Mae'n ddrwg gen i Merêd...mi ddifethis i bopeth on'do?'

Ac mae gen i boints hefo hi eto Dolig nesa.

Mae'n well gen i eu lle nhw.

meddwl rydw i am greulondeb rhai o'r pabau ac mae gen i ryw obsesiwn ynglŷn â'r chwilys, yna'r brwydro ofnadwy rhwng catholigion a phrotestaniaid, a'r creulondeb a'r poenydio a'r erledigaeth ar y ddwy ochr, a'r holl wrachod a gafodd eu llosgi, a ffanatigiaeth jonestown a arweiniodd naw cant o bobl i gyflawni hunanladdiad, heb sôn am y seiliau crefyddol y tu ôl i'r holocaust hynny yw fod yn cael ei hategu gan y celwydd taw'r iddewon groeshoeliodd crist, a'r defnydd o ddyfyniadau ysgrythurol i gyfiawnhau dienyddio gwrywgydwyr ).

Dwi wedi siarad a hen bobl, ac mae'n siwr gen i eu bod nhw'n dweud y gwir.

Brysia, mae gen i gwsmer yn siop.'

'Fuo gen i erioed ddim i'w ddweud wrth ddþr.

"Ond cofia," ychwanegodd, "mi fydd yn rhaid i ti roi cweir i un o'r hogia cyn y cei di lonydd ganddyn nhw." Er cased gen i glywed y newydd hwn ganddo, sylwn gyda boddhad ei fod wedi newid y "chi% bell i'r "ti% agosach ac anwylach.

`Mae yn reit ddrwg gen i drosoch chi, Harri,' ebe Ernest; `brysiwch adre i newid eich dillad,' a neidiodd ef a'i gydymaith i'w cyfrwyau ac ymaith â hwy, gan adael Harri i droi tua'r Wernddu.

Deilwen, os gwelwch chi'n dda, mae'n well gen i.

Cynganeddion digon amrwd þ a masweddus weithia þ ond roeddna ryw werth mewn peth felly, mae'n siŵr gen i." "Oes felly oedd hi, yntê?

Maen wers seml, os ydych chi'n gwahodd ci ffyrnig ich ty rhaid ichi ddisgwyl cael eich brathu ganddo hefyd mae gen i ofn.

Doedd gen i ddim byd i'w wneud ond dal i fyfyrio ar stori Owen Owens.

Yr oedd am fy helpu pe bai gen i ddigon o nerth i ymlusgo am y tŷ hefo fo.

Mae gen i go' am deimlo llawenydd, nid yn unig ein llawenydd ni fel grþp ond llawenydd i dawnswyr eraill yn ein llwyddiant ni.

Mae gen i wlad i'w rhedeg, meddai Tony Blair pan ofynnwyd iddo a fydd yn cymryd gwyliau tadolaeth.

Deuddeng munud oedd gen i i grisialu pythefnos o brofiad.

Yna, fel petai'n ddrwg ganddi am fod braidd yn gwta: 'Sori, Megan, ond mae gen i bobol ddiarth...'

mae gen i fflat yn ymyl y puerta del sol.

Oes gen ti win?" "Oes, dacw fo.

Does gen i fawr o gof am wraig na phlant yr Hafod ond rwyf yn cofio'r gþr yn dda iawn.

A dweud wrthynt fy mod i wedi marw ac nad oes gen ti yr un ddima at fy nghladdu.

'Ers i ni ddod yma, mi rydw i'n sylwi mwyfwy ar bethau fel cân rhyw aderyn ne'i gilydd, er na fydd gen i syniad be ydy o.

Ond er nad oes gen i ddim i'w ddweud wrtho, ac er nad oes gen i ddawn canu, 'ro'n i'n uwch fy nghloch na neb wrth ganmol rhin y 'dþr, dþr, dþr' yn festri Keriwsalem yn y Blaenau bob nos Sadwrn.

Mae'n well gen i heb yr 'i'.

'Henaint ni ddaw ei hunan', w'sti." "Rwyt ti'n ffodus." "Ydw wir; mae Megan gen i o hyd a'r plant i gyd o fewn cyrradd." "Ac yn Gymry i'r carn." "O, rydw i'n cyfri 'mendithion, raid i ti ddim gofalu ond chefais i ddim bywyd mor foethus â chdi cofia." "Ddim yn faterol, naddo.

Doedd gen i ddim amheuaeth o'r funud honno nad oedd bod yn Somalia i baratoi yr adroddiadau cynta' yn Gymraeg yn ddigon ynddo'i hun.

Wel, mae gen i fol, dydw i ddim yn ffit ac mi fedrai ollwng pêl sy'n cael ei thaflu ataf i.

Mi wna i'n siwr y bydd gen i'r amser.

Y Palas Llundain, Dydd Llun Annwyl Llefelys, Dim ond nodyn byr i ddweud fod gen i dipyn o broblem yma yn Ynysoedd Prydain ar hyn o bryd, - wel, tair a bod yn fanwl gywir.

Minnau'n dweud fod gen i ferch yn byw yn Exeter heb fod ymhell o Topsham Road.

Doedd gen i'r un syniad ar y pryd beth oedd y ffrwyth, ond wrth ei flasu y prynhawn hwnnw, a chael 'y nghyflwyno am y tro cynta i'r melwyn dwr, fe alle unrhyw un gadw'i caviar a'i siampên--ar yr eiliad honno, fedre dim byd melysach na brafiach fod wedi gwlychu 'ngwefuse i, ac roedd oerni a ffresni'r sudd yn adfywio ceg oedd yn boenus o sych.

Ac i'r rhai hynny ohona chi sydd wedi bod yn bwyta siocled plaen yn lle siocled llaeth gydol y blynyddoedd yn meddwl y gwnaiff o lai o gyfraniad i faint eich bol, does gen i ond dau air; Ha blydi ha.

Mi fydda i'n sleifio heibio'i gawell o am fod yn gas gen i ei weld o'n edrych i lawr ei hen drwyn hir main arna'i efo'r llygaid melyn lloerig yna.

'Doedd gen' i mo'r iau i wrthod ac mi es.

Wrth ddisgrifio hanes Jacob yn mynd i'r Aifft (Gen.

Cerddodd yn araf tuag ataf "Pam na fasech chi'n dwad i eistedd efo mi yn y sedd flaen?" "'Roedd yn well gen i fod o'r golwg.

Ond mae gen i rywfaint o synnwyr digrifwch, er nad ydi o mo'r un disgybledig- dderbyniol.

Ar ben hynny mae gen i ofn bod 'na draddodiad wedi bod yn y coleg yma o benodi Saeson i gadeiriau gwyddonol hefyd.

"'Fyddi di ddim yn teimlo weithia y buasai'n dda gen ti petasai Rhagluniaeth wedi gadael llonydd iti yn dy stad gyntefig - i fwynhau dy hun wrth dy gynffon ar frigau'r coed?" "Cynffon!

Doedd dim ots gen i bellach am ddim - ac ni phoenwn am ddod oddiar y lifft.

Mae eu henwau nhw i gyd i lawr yn y fan yma gen i." "Dewch i fyny i'r ffau," sibrydodd Wyn.

Mae amheuon gen i.

Wn i ddim os gwyddoch chi am Stad Bryn Glas o gwbwl ond -(Torri ar ei thraws ei hun) Mae'n ddrwg gen i, rw'i'n crwydro unwaith eto.

Mae'n syn gen i na fydden nhw wedi llyncu'r llestri hefyd!' 'Hy!' meddwn i'n reit bigog.

"Mae'r ysgolion wedi bod yn hynod o dda," meddai Carys Huw, cyflwynydd Mae Gen i Achos.

Am nad oes gen i unlle arall i fynd.

A bod yn realistig, meddai, doedd gen i ddim siawns.

"Oes gen ti fap a Phren mesur?" "Oes, dacw fo." Roedd map crand iawn gan Lludd yn hongian ar y pared.

mae gen i ddiddordeb yn y gynghanedd.

"Mae'n ddrwg iawn gen i am geisio dwyn eich eiddo, ond bwci tlawd iawn ydw i heb ddigon o fwyd gennyf i'w roi i'm plant.

Mae'n gwestiwn gen i a oes 'na Gymro yn y stafell hon heno nad oes ganddo berthnasau naill ai yn Awstralia, Seland Newydd neu Ganada.

mae gen i neges iddo fe gan betty.

Siwr gen i y byddair stori hon yn apelio at Graham Henry a aeth i gymaint o strach wrth gynnwys chwaraewyr rygbi o ffwrdd yn nhîm Cymru.

Daeth o hyd i hwnnw ar ei liniau, a dywedodd wrth y morwr ifanc: "Os oes gen ti rywfaint o synnwyr ar adeg fel hyn, mi ei dithau ar dy liniau a gweddi%o." Caeodd Douglas ei lygaid a dweud ei bader yn dawel wrth nofio'n unig yng nghanol y môr mawr.

Oes gen ti awydd diferyn i'w yfed cyn mynd i'r gwely?" "Dim diolch .

Ond mae o wedi bod yn glên iawn wrtha i ù 'does gen i ddim isio bod yn anniolchgar.

Ond efo hanner can cwpanaid o siocled yn ffrydio drwy'i berfedda fo mi fyddai Gruff druan fwy ar i draed nos nag ydio'n barod mae gen i ofn.

Dim ond y ficer alle fod wedi dweud hynna heb gal llond pen gen i.

'Ddim, falle, y deg oedd gen i mewn golwg.

"Mae gen i ormod o feddwl o'r hen Steddfod i hynny," meddai.

Dileodd y rhain lawer iawn o ddiflastod beunyddiol y gorchwylion cyffredin - golchi, glanhau, gwresogi, smwddio, coginio, cadw bwyd, ac i mi eillio, oedd yn gas beth gen i a fy nhad, gyda'r asarn hen ffasiwn.

'Beth sy' gen' i dwi'n 'i roi a beth dwi'n gael dwi'n 'i gadw,' meddai hi a phocedu'r goron.) Ailgychwyn o Bontarelan; lle mae'r ffordd yn gwyro i'r chwith rhyw hanner milltir tu hwnt i'r bont, gadael y car a cherdded ar hyd yr hen ffordd las sy'n mynd ar letcroes i fyny'r llechwedd i'r dde.

Mae gen i'r cŵn annwyl yma'n gwmpeini i mi, a'r gwningen heno.

Fel maen digwydd, mae dal hamster yn rhywbeth y mae gen i rywfaint o brofiad ohono.

'Wyt ti'n gwybod ble mae o?' 'Mae gen i syniad.' Gobeithiai Dei nad oedd y llall yn clywed y cryndod yn ei lais.

Roedd hi'n deud mae'n siŵr bod gen i fwy o nerth na hi wrth 'mod i'n ifanc, a wedyn mi fues i'n troi handl y mangl rownd a rownd a rownd.

'Hwyrach bod gen i annwyd, ac felly mae'n well i ni droi'n ôl.

Mae gen i ryw falchder mod i wedi datrys problem nad oedd neb arall yn medru ei datrys.

"Wn i ddim fasa chi'n licio peth," meddai, "fasa fo'n wahaniaeth yn y byd gen i ddwad â dau." "Ardderchog, Mrs Roberts," meddwn innau'n ddigon awchus.

Rwy'n credu y byddai'n well gen i fod yn lle Heledd nag yn lle'r par pert 'na heno.

"Oes gen ti dipyn o'r hen faw hen faco 'na, Edward?" meddai'r twmpath, a phwy oedd yno ond John Preis, yr hen gerddwr a'r cymeriad rhyfedd o Gapel Uchaf, Clynnog.

Deud wrthi mai trwsgwl oeddan ni tro dwytha, trwsgwl a blêr, glaw ifanc oeddwn i, yn goesau i gyd fel ebol newydd, doeddwn i heb arfer wrth bwrdd - cofia ddeud wrthi bod yn ddrwg gen i am y llestri - a beth bynnag, chdi oedd y drwg yn y caws go iawn, chdi ddaru droi'r byrddau a chwalu'r lluniau a chwythu'r tân i fyny'r simdde.

Hyd yn hyn mae gen i Ice Cream, Snail, Plummary, Rainbow, Nice, Lazybill i'w dysgu.