Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

genadwri

genadwri

Y mae ei genadwri, ei weinidogaeth, ei aberth a'i atgyfodiad yn cyffwrdd â holl drigolion y blaned.

Mae angen i blentyn ddeall bod consyrn ei gymuned gyda'i genadwri a bod ei ymdrechion i fynegi'r genadwri honno, sy'n aml yn garbwl a bler, yn gymeradwy yng ngolwg y rhai sy'n ei derbyn.

Gwyddai'r gwyr hyn beth oedd pregethu i dyrfaoedd enfawr a dengys hynny un o nodweddion amlycaf eu dawn - eu gallu i gyfareddu gwerin gymharol ddiaddysg a hynny heb lastwreiddio na darostwng urddas y genadwri.

Y peth sy'n rhoi min ar y genadwri Gristionogol mewn unrhyw oes yw'r argyhoeddiad fod ei derbyn neu ei gwrthod yn fater o dragwyddol bwys.

Cario'r genadwri i'r cyhoedd anghrediniol oedd yr amcan.

Rhaid crynhoi'r genadwri a rhoi min arni cyn symud ymlaen.

Rhaid inni gofio bob amser i'r efengylau gael eu hysgrifennu i fynegi ffydd y Cristion yn ei Grist a hefyd i gyflwyno'r genadwri Gristnogol mewn dull a fyddai'n ennill diddordeb ffafriol y byd Rhufeinig.

Pan fu esgob Llandaf yn ei holi, flynyddoedd cyn hyn, am fod ei waith yn tramgwyddo rheolau'r eglwys, dywedodd Wroth wrtho, "Mae eneidiau'n mynd i uffern, f'Arglwydd, yn eu pechodau; oni ddylem ymdrechu ym mhob modd posibl i achub eneidiau?" Ac yn ei lyfr, Glad Tydings, rhoes Cradoc fynegiant eithriadol ddeniadol i'r genadwri Gristionogol, mynegiant sy'n rhoi awgrym inni o'r ysbryd a oedd yn ysgogi'r gweithgarwch o dan Ddeddf y Taenu.