Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

genedigaeth

genedigaeth

Cyfuno deunydd a fenthycwyd o'r Brut ac o ramant Ffrangeg, y Merkn en Prose (rhan o Gylch y Fwlgat) a wnaeth awdur anhysbys y testun a adwaenir heddiw fel 'Genedigaeth Arthur', er enghraifft, ac a gadwyd yn llsgr.

Yn achos Cymdeithas yr Iaith Gymraeg mae'r fytholeg gynhaliol yn neilltuol o gref gan bod blynyddoedd gwawrddydd y mudiad yn cydddigwydd â ffrwydriad diwylliant ieuenctid y chwedegau, cyfnod euraid yng nghof yr aelodau cynnar sy'n cysylltu genedigaeth y Gymdeithas â rhyddid a menter eu hieuenctid eu hunain ond sydd bellach wedi ymgolli ym mharchusrwydd canol oed.

Mi fuo jest i mi gael fy ngeni yn l.RA, ond trwy ryw drugaredd mi ddaeth fy mam i Benmaenmawr i roi genedigaeth imi.

Gyda'i llygaid mawr llwydlas a'i chroen golau clir, mynnai ei chymdoges Mestres Sienet Watcyn, Ysgubor Fawr, a'i hadnabu ers ei genedigaeth, bod merch yr hen Sgweiar yn ferch ddeniadol tu hwnt, yn hynod o debyg i'w thad o ran cymeriad yn ogystal a phryd a gwedd.

Canlyniad hyn i gyd oedd genedigaeth ei fab, Rhys.

Dinas a choleg Caerdydd yw man genedigaeth y cylchgrawn hwn, yma y gwelwyd bod tir newydd yn ein disgwyl yng Nghymru, i'w ddarganfod gennym a'i weithio a'i feddiannu, er lledu teyrnas diwylliant Cymreig.

Hyd yma ni wyddent ychwaith y medrai genedigaeth freiniol arwain i boendod.

Yn yr un modd credid gynt na ddylai mam a oedd newydd roi genedigaeth i blentyn fynd i ymweld â phobl heb yn gyntaf fynd i le o addoliad.

GENEDIGAETH: Llongyfarchiadau i John a Linda Duggan, Tafarn yr Union Garth, ar ddod yn daid a nain unwaith eto.

Mae'r wraig yn rhoi genedigaeth ac yn magu plant; ni all y gwr a'r wraig, felly, fod yn gyfartal.