Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

genedlaetholdeb

genedlaetholdeb

Gall crefydd fod yn Foslemiaeth, neu'n Fwdi%aeth, neu'n Gristionoigaeth, ond gall hefyd fod yn Sosialaeth neu Genedlaetholdeb neu hyd yn oed ni ein hunain.

'Roedd blynyddoedd o genedlaetholdeb, imperialaeth a militariaeth yn Ewrop ar fin ffrwydro'n rhyfel.

Thema ganolog: Rhyfel, effaith y Rhyfel, parhad rhyfel dan gysgod y Bom ac wrth i'r Swyddfa Ryfel fygwth dwyn tir Cymru, y Rhyfel oer: yr Ail Ryfel Byd yn torri cyn i'r Eisteddfod gael cyfle i weithredu'r drefn newydd, a gorfod ailaddasu eto ar ôl y Rhyfel, nes cyrraedd y flwyddyn dyngedfennol bwysig honno, 1955, pan ddechreuwyd sôn am foddi pentref Cwm Cwelyn, yr ysgogiad mwyaf i genedlaetholdeb Cymreig y cyfnod diweddar.

Enw arall yw ceidwadaeth ar genedlaetholdeb.

Y mae eraill, fel Joachim Jeremias, yn barod i ddweud ei fod yn bendant wrthwynebus i genedlaetholdeb Selotaidd.

Eithriad oedd "AE" (George Russell), yn ymboeni ag egluro'i genedlaetholdeb mewn cyfrol The National Being, a'r myfyrdod dychmygol am wladwriaeth Iwerddon.

Ni fynnaf drafod yma odid ddim ar yr Oesau Canol a pharhad y math (neu'r mathau) o genedlaetholdeb a geid yno, am y rheswm syml fy mod o'r farn inni gael yn rhan o'n cynhysgaeth o'r unfed ganrif ar bymtheg i lawr lun ar genedlaetholdeb diwylliadol 'newydd', cenedlaetholdeb ag iddo nodweddion anfediefal, cenedlaetholdeb yn y meddwl a'r dychymyg a oedd yn ymgais i wrthsefyll nerth y dylanwad allanol a oedd arnom.

Fe gafwyd adroddiad ar genedlaetholdeb yr Iwcraen neu ar Chernobyl, ffynhonnell ymbelydredd defaid gogledd Cymru.

Ceid rhyw genedlaetholdeb ymhlith y gwyr mwyaf eithafol yn y mudiad Phariseaidd ac yn y mudiad bedyddiol a gynhwysai gymuned Qumrân.

Nid dyma'r lle i feirniadu eu syniadau; digon efallai yw dywedyd nad hawdd gan Gymry a anwyd yn y ganrif ddiwethaf lyncu holl syniadau'r adwaith Ffrengig am genedlaetholdeb a chrefydd.

Bu'n hawdd yn wastad i feirniaid gysylltu cenedlaetholdeb Cymreig ag unrhyw fath o genedlaetholdeb a all ddigwydd bod yn niweidiol: yn nes ymlaen, disodlwyd arf cenedlaetholdeb Gwyddelig gan arf Natsiaeth.

Gan wahaniaethu rhwng cenedligrwydd a chenedlaetholdeb, a chan dderbyn fod y naill o reidrwydd yn sail i'r llall, y mae'n dweud ar ei ben taw peth diweddar iawn yw cenedlaetholdeb gwleidyddol yng Nghymru - 'little older (apart from the occasional voice crying in the wilderness) than the second half of the nineteenth century.' Yna, yn ail hanner yr erthygl, try RT Jenkins at 'y ffurf arall ar genedlaetholdeb Cymreig', y ffurf ddiwylliadol arno.

Efallai, fe'i clywais yn honni, y byddai'n rhaid i Gymru fynd fel Iwerddon a cholli'i hiaith cyn y cyffroid hi i adweithio yn erbyn y golled ac i droi at genedlaetholdeb.

'Roedd ei genedlaetholdeb yn pwysleisio'r undod rhwng hanes, llenyddiaeth, celfyddyd, gwerthoedd cymdeithasol ac ideolegau gwleidyddol.

Ysbrydolwyd y gerdd hon gan genedlaetholdeb hefyd, yn union fel yn achos awdl y Gadair, ond cenedlaethodeb y bêl yn hytrach na chenedlaetholdeb y bleidlais oedd thema'r bryddest fuddugol.

Gwahoddwyd yr awdur i roi sgwrs ar Genedlaetholdeb Cymru ar y radio, ond ddeuddydd cyn y darllediad fe dynnodd penaethiaid y BBC y gwahoddiad yn ôl.

Cymru Ymneilltuol yw'r pwnc ac eto y mae islais o genedlaetholdeb gwrthSeisnig trwy'r ddrama: Saeson, er enghraifft, sydd yn rheoli popeth yng Nghymru ac ar waethaf hynny, pobl heddychlon yw'r Cymry (t.

Cychwyn gyda gwrtheb a wnaeth yr awdur - ar Genedlaetholdeb yr oedd y bai am bicil Cymru gyfoes, cenedlaetholdeb gwladwriaethau Ewrop, gyda'u pwyslais ar undod a chryfder ar draul diwylliannau lleiafrifol.

Yn rhinwedd ei genedlaetholdeb dysgodd weld perthynas gymhleth iawn rhwng dyn a'i amgylchfyd.

Rhoddodd y beirniaid fwy o sylw i genedlaetholdeb yng ngwaith Ffowc Elis nag i Gomiwnyddiaeth/Marcsiaeth/ Sosialaeth, oherwydd, yn ddiddorol iawn, wrth bleidio'r achos cenedlaethol yn anad yr un achos gwleidyddol arall y beirniedir llenorion am lunio propaganda ar draul creu llenyddiaeth, gan ragdybio fod y ddau yn bethau hollol ar wahân, a bod y naill o reidrwydd yn difetha'r llall.

Meddyliwr radical ydoedd ef, a ysgrifennodd yn helaeth ar ryfel a heddwch, comiwnyddiaeth a chyfalafiaeth, y bom hudrogen a dyfodol dyn, a chenedlaetholdeb a rhyng-genedlaetholdeb.

Os adwaith yn erbyn y Llyfrau Gleision a roes gychwyn i genedlaetholdeb Cymreig yn ail hanner y ganrif, rhaid cyfaddef hefyd mai'r Llyfrau Gleision a orfu.