Cwyd y dyryswch o ddau ddiffyg, methu â gweld y gall cenedlaetholdeb fod yn dangnefeddus a methu â sylweddoli rhywbeth a ddylai fod yr un mor amlwg, sef fod gwahanol fathau o genedlgarwch yn bod ymhlith yr Iddewon y pryd hynny megis ymhob cenedl ymhob oes.