Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

genetig

genetig

Gyda dulliau mwy cywrain, gellir gwella eto ar fedr yr algorithm genetig.

Wrth ystyried mai rhestr o 'unigolion' hollol ar hap oedd i gychwyn, ac mai'r unig dasg gyfrifo angenrheidiol oedd mesur y pellter rhwng gwahanol bentrefi, mae'r algorithm genetig wedi medru esblygu, ac yn ei sgil, hunan-ddysgu y daith orau heb unrhyw ymyriad o gwbl.

I ddychwelyd at deitl yr erthygl, a'r dinosoriaid diflanedig, nid yw'r esblygu sy'n digwydd ym myd natur mor hawdd ei ddeall â'r amcanu syml a geir yn yr algorithm genetig.

Yn yr un modd, fe ymgorfforir mwtaniad yn yr algorithm genetig, drwy i un llythyren yn y 'DNA' gael ei newid i un arall.

Gellir gweld atyniad yr algorithm genetig - nid oes angen rhaglennu'r camau datrys yn uniongyrchol, sy'n broses faith a llafurus, dim ond diffinio 'DNA' yr 'unigolion' yn ôl y broblem, a chael rhyw ffordd o fesur pa mor dda yw cyfuniad arbennig o'r wybodaeth 'enetig' yn y 'DNA'.

Ym myd natur, atgenhedlu rhywiol yw'r dull pennaf o gael cyfuniadau newydd o'r wybodaeth enetig i'r genhedlaeth nesaf - fe etifeddir rhai unedau genetig o'r tad a rhai o'r fam.

Yn anaml iawn y digwydd mwtaniad mewn natur a hefyd yn yr algorithm genetig, ond mae ei bwysigrwydd yn gorwedd yn y siawns o greu cyfuniad o wybodaeth newydd.

Mae'r rhai hynny wedyn yn fwy tebygol o oroesi ac atgenhedlu eu defnydd genetig.

Defnyddir yr algorithm genetig i esblygu y 'DNA' 'teithio' byrraf, ac felly ateb ein problem!

Esblygiad drwy ddetholiad naturiol, fel y canfu Darwin, sy'n gyfrifol am y datblygiad hwn, a cheisio trosi'r broses bwerus hon i fyd y cyfrifiadur yw canolbwynt yr algorithm genetig.

Yn yr algorithm genetig, cyfrifir pellter teithio yr holl 'unigolion' yn y cyfrifiadur, a'u hail-restru yn ôl maint eu pellteroedd.

Gelwir y datblygiad yma yn algorithm genetig, a byddaf yn disgrifio'r syniadau sydd y tu cefn iddo ac yn rhoi enghraifft o'i ddefnydd mewn cyfrifiaduron.

Esiampl weddol syml o'i ddefnydd a gyflwynwyd yma, ond mae'n ddigonol i ddangos effeithioldeb yr algorithm genetig.

Chwalodd ei briodas gynta oherwydd nad oedd Llew yn gallu wynebu salwch genetig ei fab, Rhodri.

Mewn algorithm genetig, nid gwybodaeth am rywbeth byw megis eliffant a gedwir yn y DNA, ond yn hytrach gwybodaeth am sut i ddatrys problem gyfrifiadurol.

Ond pan ddefnyddir algorithm genetig nid oes angen rhaglennu'r cyfrifiadur, dim ond cyflwyno'r broblem mewn metaffor o DNA.

Mewn natur, mae esblygiad yn dibynnu ar yr amrywiaeth genetig sydd mewn poblogaeth o greaduriaid o'r un math.

Bydd y gallu hwn yn dibynnu ar ganlyniad gweithrediad nifer fawr o elfennau genetig.