Bu hon yn flwyddyn dda i gynyrchiadau rhwydwaith BBC Cymru, gyda llwyddiannau arbennig yn y genres rhaglenni cerddoriaeth a ffeithiol.
Ar rwydwaith, o ganlyniad i gydweithrediad gyda chynhyrchydd annibynnol, ailgomisiynwyd y ddrama i blant, The Magicians House, a chafwyd arwyddion cadarnhaol yn Jack of Hearts a Dirty Work. Gwelwyd datblygiad ardderchog mewn genres eraill hefyd, gan gyflawnir nifer uchaf erioed o gomisiynau rhwydwaith ar gyfer radio a theledu ym 1999/2000.