Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gerbron

gerbron

Ymrithiai Sir Gaerfyrddin gerbron llygaid Myrddin Tomos fel gwlad yn llifeirio o laeth ac uwd.

Bydd yn dod gerbron cyfarfod nesaf Pwyllgor Addysg Mynwy.

Fe fydd yn cael ei chyflwyno ar gyfer ymgynghori ac yna'n cael ei rhoi gerbron Ysgrifennydd Cymru a'r Senedd.

Fodd bynnag, er y cyfan a allwn ddweud amdano sy'n gadarnhaol, mae'n parhau yn bechadur - pechadur a gyfiawnhawyd gerbron y nef - ond un sy'n llawn amherffeithrwydd.

Teimlai amryw o'r aelodau hefyd yr hoffent gael y cyfle i roi cynigion gerbron y Cyngor ddwywaith y flwyddyn.

Mae angen mwy o amddiffyniad ar fenywod os yw dynion yn debycach o gael eu restio a'u dwyn gerbron y llys, ac mae'n hanfodol bwysig bod mwy o swyddogion heddlu yn hysbysu menywod o godolaeth llety dros-dro diogel a gynigir, gan lochesau Cymorth i Ferched tra bod yr achos ar y gweill.

Cyn y gellid dwyn mesur ar ei ran gerbron y Senedd i roi hawl iddo greu'r gronfa ddŵr yr oedd yn rhaid cael mwyafrif o'i blaid mewn cwrdd agored.

Fe fydd hefyd yn tanseilio hygrededd Cristnogion gerbron y byd ac yn y pen draw fe fydd yn dwyn anfri ar Dduw.

Bur gerddorfa ar corws yn rhan o hanes wrth iddi groesawu Cynulliad Cenedlaethol Cymru gyda chyngerdd gala urddasol ym Mae Caerdydd - lle perfformiodd y casgliad mwyaf erioed o ddiddanwyr Cymreig gerbron y Frenhines, Tywysog Philip a Tony Blair.

Pan geisiodd Owain ddwyn yr achos gerbron seneddwyr Lloegr chwarddon nhw am ei ben a gofyn, 'Beth yw'r ots gennym ni am y corgwn troednoeth hyn?' Ond roedd Owain yn llawer mwy na rhyw gnaf o wrthryfelwr Cymreig.

Penderfynodd aelodau'r rhanbarth eu bod yn ymddiried yn y swyddogion i weithredu pe deuai cais o'r fath eto, heb gyfle i roi'r mater gerbron y rhanbarth.

Aeth y rhaglen gerbron y dawnswyr a phenderfynwyd mynd mewn egwyddor er i Eirlys Britton ein harweinydd bwysleisio fod yn gyntaf angen mwy o fanylion ynglŷn â'r gystadleuaeth a'i chefndir.

Roedd y slogannau (mewn paent oren ffliresynt) yn datgan ILDIWCH I'R GYMRAEG. Bydd y ddau yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerdydd yn y dyfodol agos. ILDIWCH I'R GYMRAEG

Wrth i ni ymarfer mae'r eirfa'n gwella o hyd a daw geiriau annisgwyl iawn gerbron, geiriau sy wedi bod yng nghefn y cof am flynyddoedd efallai ond heb gael eu harfer.

(ch)Croesfan Merllyn, Criccieth (Dygwyd yr eitem hon gerbron fel mater o frys ar ardystiad y Cadeirydd oherwydd y derbyniwyd llythyr gan y Rheilffyrdd Prydeinig ar ôl i'r rhaglen gael ei hanfon at yr aelodau a'r brys i ymateb).

Roedd ganddynt ddiddordeb mawr yn y cynnig a byddai Mr Hughes yn rhoi'r mater gerbron pwyllgor cyllid y Cyngor Dosbarth.

Nid yw o bwys os bydd achosydd yr ymwybyddiaeth hon yn sefyll yn grwn o'm blaen ar lun dyn; ni bydd ond fel cysgod nes i'r ddau John arall ymddangos gerbron llygad fy meddwl.

Gwysiwyd hi a Mr Beasley dros ddwsin o weithiau gerbron llys yr ustusiaid.

Hoffech chi ddatrys y broblem unwaith ac am byth, drwy fynd a'r mater gerbron llys?

Pan fydd y Cyngor yn gweithredu mewn unrhyw lys barn neu unrhyw dribiwnlys arall boed fel pleintydd, diffynnydd erlynydd neu mewn unrhyw ffordd arall, awdurdodir Cyfreithiwr y Cyngor ac unrhyw gyfreithiwr arall a fo o bryd i'w gilydd yn gweithredu ar ran y Cyngor ac i bob swyddog arall a gyflogir gan y Cyngor i wneud unrhyw beth a fydd ei angen er mwyn hyrwyddo'r achos ar ran y Cyngor gan gynnwys, ond heb ragfarn i unrhyw beth arall a fyddai angen ei wneud, cymryd pob cam gweinyddol i ddwyn yr achos gerbron y llys ac yn y llys, ymddangos mewn achosion i gyflwyno achos y Cyngor, casglu tystiolaeth ar gyfer yr achos, rhoddi tystiolaeth yn y llys, gwneud affidafidiau, cymryd pob cam angenrheidiol i orfodi penderfyniad y llys, adennill costau ac amddiffyn yn erbyn a negodi costau a ganiateir yn erbyn y Cyngor.

Wedi'r cwbl dyn oedd wedi pechu; ef oedd yn gyfrifol am ei gyflwr gerbron Duw.

Cyflwynwyd gerbron Pwyllgor Addysg y Cyngor ym mis Chwefror -- ymateb ffafriol iawn eto.

Nid oedd yno neb i amau dilysrwydd yr wybodaeth a roddwyd gerbron na chywirdeb y ffeithiau.

Felly, nid ar chwarae bach y dylid diddymu'r hawl i ddiffinydd ymddangos gerbron rheithgor.

Yn hytrach, dylid ail-ystyried rhoi cynigion gerbron y Cyngor ddwywaith y flwyddyn.

Ac fe gyhoeddwyd llythyr Vincent o fewn ychydig wythnosau i'r Eisteddfod yn y Royal Albert Hall lle llwyfannodd y Cymry eu teyrngarwch diarhebol gerbron Tywysog Cymru a'i deulu, lle cadeiriwyd Berw am awdl i Victoria a lifeiriai o edmygedd a diolch, lle bu Henry Richard AS, a 'savants' cyfarfodydd y Cymmrodorion, yn sicrhau pawb o fewn clyw na châi'r Gymraeg atal llanw'r Saesneg.

Fel pe bai wedi ei ryddhau am ychydig o hualau'r drefn Sofietaidd byddai Mr Gorbachev yn gwneud yn fawr o'i gyfle i draethu gerbron torf enfawr o ohebwyr.

Dymuniad y Rhanbarth oedd i mi ysgrifennu yn cynnig nad oes angen siaradwr yn y Cyngor ym mis Tachwedd a'ch bod yn ail- ystyried rhoi cynigion gerbron y Cyngor ddwywaith y flwyddyn.

Bu'r gerddorfa a'r corws yn rhan o hanes wrth iddi groesawu Cynulliad Cenedlaethol Cymru gyda chyngerdd gala urddasol ym Mae Caerdydd - lle perfformiodd y casgliad mwyaf erioed o ddiddanwyr Cymreig gerbron y Frenhines, Tywysog Philip a Tony Blair.

Mewn datganiad i'r wasg gan y Swyddfa Gymreig cafwyd ar ddeall bellach bod yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru wedi rhoi sel ei fendith ar y cynlluniau ynglyn a ffordd osgoi Llanbedrog a roddwyd gerbron yn yr arddangosfa yn ol ym mis Chwefror.

A ddylai diffinydd gerbron llys troseddol gadw'r dewis sydd ganddo ar hyn o bryd o gael ei achos wedi ei glywed o flaen rheithgor ai peidio?

Byddai gobaith da i lawer cyngor gefnogi'r cynllun, o'i gyflwyno iddynt gan ryw gyngor arall, ond nid oedd fawr o obaith am gefnogaeth pe deuai'r cynllun gerbron â label y Blaid arno.

Dau aelod o Fyddin Rhyddid Cymru yn marw mewn ffrwydrad yn Abergele, a chwech arall gerbron y llys yn Abertawe am fod ag arfau yn eu meddiant; dau o'r rhain yn cael eu carcharu.

(c) Pont Rhyd Hir, Ffordd y Cob, Pwllheli (Dygwyd yr eitem hon gerbron fel mater o frys ar ardystiad y Cadeirydd oherwydd y derbyniwyd llythyr gan Gyfarwyddwr Priffyrdd y Cyngor Sir ar ôl i'r rhaglen gael ei hanfon at yr aelodau a'r brys i ymateb).

Mr Wynne Samuel, os cofiaf yn iawn, a ddaeth ag awgrym gerbron y Pwyllgor, yn cymell y Blaid i fabwysiadu yn bolisi gynllun ar gyfer Cymru o waith arbenigwr yr oedd ef yn ei adnabod; yr oedd y cynllun yn un priodol iawn i Gymru, ac ni chafodd y Pwyllgor anhawster i'w dderbyn.

Awgrymodd yr erlynydd ei bod wedi cyflwyno tystiolaeth gelwyddog gerbron y rheithgor oherwydd iddi fethu cael arian gan yr hen ŵr.

Mae'r dewis o gael ymddangos gerbron rheithgor yn hawl sylfaenol ac ni ddylid ei chwtogi ymhellach.

Y peth nesa', roeddwn gerbron yr Arlywydd ei hun.

Bur sêr yn perfformio gerbron y Frenhines, y Tywysog Philip, Tywysog Cymru, Tony Blair a 60 o arweinwyr gwledydd.

Tystiolaeth ynglŷn â'r Ddraffl Gynnig fyddai gerbron y cynrychiolwyr ym Maastricht oedd y testun, yn naturiol.

Aeth Kamel â mi gerbron y Cadfridog.

Neu, yn y pegwn arall, pan fo'r amgylchiadau'n fwy difrifol þ dod â'r achos gerbron llys, doed a ddêl.

Rhoddwyd cynnig gerbron Mr Matthews a Mr Hughes ynghylch datblygu canolfan gynghori newydd ym Mlaenau Ffestiniog trwy gyfrwng yr Arweiniad Gwledig neu'r Rhaglen Ddatblygu Drefol, ac yn arbennig ynglyn a chyflogi cynghorydd ariannol ar gyfer y ganolfan gynghori.

A chaethwasiaeth a ddaeth mewn côf gerbron Duw i roddi iddo gwpan gwin digofaint ei lid ef.

Gellid yn hawdd gymeradwyo ffyrdd amgenach o dreulio'r diwrnod na sefyllian ar lawnt yn Reykjavik a hithau'n ddiwedd Hydref ond dyna oedd y dasg gerbron.

Eu llys nhw yw llys Mae Gen i Achos; nhw sy'n penderfynu ar yr achosion i'w dwyn gerbron y llys, nhw sy'n gwrando'r achosion a nhw sy'n dedfrydu.

Mae'r dadleuon a roddir o blaid cwtogi ymhellach ar yr hawl hon wedi'u seilio ar ddiffyg cyllid, a'r angen i leihau costau achosion gerbron Llys y Goron ac i esmwytho gweinyddiad y llysoedd hynny.

Ar hyn o bryd, mae gan ddiffinydd, sydd wedi ei gyhuddo o ddwyn, yr hawl i ddewis gwrandawiad o'i achos naill a'i gerbron Llys yr Ynadon neu gerbron rheithgor yn Llys y Goron.

Felly, cyfiawnder benthyg sydd gan y Cristion gerbron Duw.

Diau y byddai'n ymddwyn yn fwy bonheddig gerbron Tywysog Cymru na cherbron tîm rygbi Bae Colwyn, ond Bedwyr oedd Bedwyr ble bynnag yr âi, Bedwyr y sgwrsiwr hwyliog, Bedwyr y cefnogwr unllygeidiog, Bedwyr y rhefrwr didderbynwyneb a'r rhegwr.

Bu'r sêr yn perfformio gerbron y Frenhines, y Tywysog Philip, Tywysog Cymru, Tony Blair a 60 o arweinwyr gwledydd.

Ar adegau felly, cyn sicred â dim, y mae gên y gohebydd druan yn tueddu i rewi a'r gwefusau'n crynu wedi oriau'n gwagsymera yn yr oerni, gan wneud y dasg o adrodd yr hanes gerbron y camera'n un hynod boenus.

Cawsom gyfle i roi apêl gerbron y Swyddfa Gymreig ac yn wir fe ysgrifennodd llawer rhiant at y swyddfa honno.