Hanes ymddieithrio, cymodi a chyfannu perthynas yw Gereint ac Enid.
Y mae cynllun Gereint ac Enid yn un syml ond cadarn.
Gwyddai awdur Gereint ac Enid rywbeth am y ffordd hon o blethu hanesion a'u hystofi'n gyfrodedd gymhleth ac fe'i defnyddiodd yn effeithiol ac yn hollol ymwybodol, er heb holl gywreinrwydd ystyrlon rhamantau'r drydedd ganrif ar ddeg.
Wrth greu categori 'y rhamantau' neu 'y tair rhamant' pwysleisiwyd gennym nodweddion a barai fod Peredur, Iarlles y Ffynnon, Gereint ac Enid rywsut yn sefyll ar wahân braidd i brif ffrwd y testunau rhyddiaith storiol 'brodorol' (ac nid oes rhaid ailrestru nodweddion tybiedig y rheini yma), ac aethpwyd ati i'w cymharu â'i gilydd er mwyn darganfod y priodoleddau cyffredin a allai gyfiawnhau eu gosod oll yn yr un dosbarth.
Dangosir cadernid cariad Enid nid yn gymaint yn ei geiriau wrth wrthod ymgais Iarll Limwris i ennill ei llaw ond yn fwy fyth yn ei ffydd yn Gereint a hithau wedi dioddef cymaint o gam ganddo, 'a dodi
Ond yr oedd techneg barod ar gael i awdur Gereint.
Cyfansoddiad unigryw yw Gereint ac Enid, fel y ddwy 'ramant' arall, ac nid yw ei hystyr, ei harwyddocâd na'i hapêl yn dibynnu ar ei pherthynas ag unrhyw stori arall.