Yn ei gerdd 'Washington ', mae Gerwyn Williams yn mynd â ni yn ôl at un o'r golygfeydd mwyaf dychrynllyd a welwyd yn yr ugeinfed ganrif.
Gerwyn Wiliams, Arwyddion Ffyrdd yn 'Rhosyn a Rhith'
O gamu ymlaen i Eisteddfod Genedlaethol Nedd ym 1994, mae Gerwyn Williams yn un o gerddi'r dilyniant 'Dolenni' hefyd yn sôn am un o ddelweddau mwyaf dychrynllyd rhyfel Fietnam yn ei gerdd 'Washington'. Mae'n mynd â ni yn ôl at y llun o'r ferch fach Phan Thi Kim Phuc yn ffoi, dan lefain, o gyfeiriad ei phentref, ac yn rhedeg yn noeth, a llosgiadau'r napalm i'w gweld ar ei chroen.
Ond nid y gorffennol yn unig a gaiff sylw Gerwyn Williams.