Saif y llecyn hwnnw yng ngenau Cwm Trefi, ar ochr chwith y geunant a red heibio.
'Fe glywa'i swn dyfroedd a llifogydd ofnadwy,' meddai hi, 'a swn peiriannau na welodd neb eu bath.' 'Pan fydda'i farw,' meddai hi dro arall, 'gofelwch raffu fy arch ar yr elor.' Ni chymerwyd sylw o'i chyngor ond ar ddydd ei hangladd fe ddychrynodd y ceffylau a dechrau carlamu a phan ddymchwelodd yr elor feirch fe syrthiodd arch Gwenno i lawr i ryw geunant.