Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gewch

gewch

Cewch chi ymuno a'r llyfrgell yn rhad ac am ddim, ac fe gewch fenthyca hyd at ddeg eitem ar y tro dros gyfnod o bythefnos.

Os mai dyma eich darlun chi o lyfrgell, yna ewch draw i'ch llyfrgell leol ac fe gewch eich synnu!

Mae'r gyfrol yma'n cynnwys Rysait Aros Adra felly os yr ydych yn chwilio am ysbrydoliaeth i greu cwynion newydd, mi gewch sawl symptom gwreiddiol.

Defnyddiwch y saeth dewis i lusgo ar draws y diagram i gyd (o'r top chwith i'r gwaelod dde) fe gewch linell fylchog grynedig o gwmpas y diagram, wrth ichwi adael i fotwm y llygoden godi bydd pob gwrthrych yn cael ei ddewis fel yn y diagram ar y dde isod.

mi gewch chi ddewis un ai'r fersiwn gwreiddiol neu fersiwn acwstig.

'Nei di mo ngadel i i fynd i'r hen gollege ene, a 'nei di, Rhys?' ' Atebodd Dafydd drosof, ac yr oeddwn yn ddiolchgar iddo ``Mi gewch siarad am hynny eto, Miss Hughes,'' ac wedi ychwanegu ychydig o eiriau cysurus, aeth Dafydd ymaith.

Mi gewch 'rwy'n siwr, bwff o chwerthin wrth ddarllen am ei hiwmor, a'i ffraethineb, y pethau doniol hynny sy'n perthyn i Charles a dim ond Charles.

Os byddwch yn mynd i drafferthion, fe gewch lawer rhagor o gydymdeimlad yn y banc na gan gwmni ariannu.

Mi gawn ni fynd â'n bwyd efo ni rhyw ddiwrnod yn fuan." "Fydd arni hi ddim eisiau mynd drwy'r coed, gewch chi weld rŵan - fe fydd arni hi ofn bwci-bo neu ryw rwdl felly !

Mi gewch chi ddarganfod hynny drwy ddarllen y llyfr; digon yw dweud i'r creadur bach newydd yma lwyddo i swyno'r darllenwyr yn ty ni.

"Ac mi gewch chwitha' wybod, Snowt, beth ydi'r busnes pwysig sydd gan Matthew i'w drafod efo mi."

Fe gewch gylchlythyrau yn rhoi gwybod am waith y Gymdeithas a digwyddiadau pwysig.

Mi gewch chi weld Huw am ychydig, meddai wrth Dad.

Gewch chi ddim gwared ohonom ni ar chwarae bach.

Fe gewch o fewn cloriau'r rhifyn hwn o'r Bont rhyw arwydd bychan o'r goleuni a'r llwyddiant hwn.

Mi gewch chi eu cyfarfod ill dau ar y diwadd." Dipyn o gawdel oedd yr ymarfer, fel y disgwyliwn, a chlywn Menna'n wfftio'r actorion.

Fe gewch ffenestr sydd rhywbeth tebyg i hyn:

Mae rhyfel yn mynd, a hynny'n fuan iawn, gewch chi weld." "Ond fe ddwedodd y Prif Weinidog - 'Peace in our Time'.

Fe gewch chi fynd i Bridgetown i siopa gyda Meri, Ydych chi'n fodlon ar hynny?" "Ydw," atebodd hi'n gwta heb edrych arno.

Mi gewch chi hwnnw i'w gadw ar y silff-ben-tân i'ch atgoffa.

Hefyd mi gewch yrru eich plant i Ysgolion Urmyceg yn fengach mewn rhai ardaloedd ac ymuno (os mai merch yda chi) efo Sect 'Glasiad y Dydd'.

Dyna yn union a gewch ym Mro Gwyr os yr ewch ati i ddilyn y trywydd daearegol.

"Ond my gewch chi weld y bydd Wiliam yn iawn, wedi cyrraedd a dechrau ennill arian.

'Gad i mi gael y bêl ac fe gewch fynd yn ddiogel, y pedwar ohonoch.'

Fe gewch rheini yn nes ymlaen.

Os ydych chi yn nôl o eich hunan gewch chi letric sioc ac wedun fyddwch chi wedi marw ac nath hi ddweud dim chwara hefo barcud wrth y weiran na cicio pêl i mewn i'r twll yn yr lon pan mae dyn Manweb yn gweithio neu gewch chi eich lichio ym mhell i ffwrdd ac wedun cafodd pawb bresant; gan Paul de-Waart.

Mi gewch ddod yn ôl hefo mi ar y cwch, os liciwch chi, ac mi fedraf ddod â chi'n ôl hefyd." Yr oedd llygaid y plant yn disgleirio, a dechreuodd Deio ddawnsio o gwmpas.

(Rhaid ichwi roi eich disg hyblyg i mewn, bydd y cyfrifiadur yn gofyn ichwi wneud hyn os ydych wedi anghofio.) Os ydych yn cadw am y tro cyntaf fe gewch y blwch dewis canlynol:

Yn groes i hynny, os ewch ymlaen bymtheg tudalen fe gewch eich cymell i wrando ar un o areithiau mwyaf grymus, a mwyaf dyfynadwy, y Bardd o Stratford, mor huawdl nes ei bod yn berwi drosodd chwarter y ffordd i lawr y tudalen nesaf.

Wedyn, os byw ac iach, ac os byddwch chi'ch dau yn dal efo'ch gilydd mi gewch ystyried priodi pan fyddwch chi'n ddigon hen.

Mi gewch hwylio'ch llong ynddo fo, ha ha ha...

Y tu mewn, roedd swyddogion llywodraeth a'u teuluoedd yn symud i'w seddi, gyda'r math o siffrwd parchus a gewch chi mewn digwyddiadau ffurfiol o'r fath.

Os bydd hylif fel llefrith wedi ei gymysgu gyda'r wy yna, wrth ei dwymo, bydd yr hylif yn cael ei ddal yn y rhwydwaith ac fe gewch gwstard.

Yn barod mae Evans wedi chwarae mewn amryw o leoliadau o Westyr British ym Mangor i'r Cavern Club yn Lerpwl - ac os gewch chir cyfle gwnewch yn siwr eich bod yn mynd i weld y cyfenw o Gaernarfon.

Fe gewch wybod am eich cysylltwr lleol os gysylltwch â'r Brif Swyddfa yn Aberystwyth. Holwch y cysylltwr am y gwaith lleol a dyddiad y cyfarfod nesaf.

Siwrnai seithug heno eto, mi gewch chi weld,' meddai Gareth.

Wrth syllu ar yr holl fLodau sy wedi cael eu trefnu mor ofalus mewn Cloc Blodau fe gewch eich synnu gan yr holl ofal a gweithgarwch sy y tu ôl i'r cyfan.

Anaml gewch chi gymeradwyaeth mewn cynhadledd newyddion ond rwystordd hynny mo'r lluoedd ufudd yr wythnos dwethaf.

Meddyliwch am y rhaff hir wedi ei hel yn belen braidd yn flêr ac fe gewch ddarlun digon teg.

'Mi gewch chi'ch crogi'n siwr i chi.' Addawodd yr hen ŵr y câi hi'r fuwch ddu a'r setl, cist a chadwen ond iddi beidio ag achwyn arno.

Unwaith y byddwch yn gyfarwydd â'r cymhwysiad fe gewch weld bod cymwysiadau eraill yn hawdd i'w defnyddio; dyma un o gryfderau mawr system y Mac, mae cymwysiadau gwahanol yn gweithio mewn ffyrdd tebyg i'w gilydd.

Mi gewch ei weld, siwr iawn, er fy mod yn torri'r rheolau cofiwch.

Meddyliwch am y llogau gewch chi ar ddau gan mil, digon i'ch cadw chi'n ŵr bonheddig weddill eich oes, digon i roi sicrwydd i'ch mam.

Erbyn cyrraedd colegau Prifysgol Cymru dyw pethau ddim wedi gwella ers y pumdegau a'r chwedegau, fe gewch chi wneud Cymraeg, Hanes, Ysgrythur a Daearyddiaeth os ydych chi'n lwcus, drwy gyfrwng y Gymraeg a dyna ni.