Gorsaf y rheilffordd yn anhygoel, hyd yn oed ar ol gweld ffilm 'Ghandi' - yn orlawn mewn modd na ellir ei ddychmygu heb ei weld, yn swnllyd, yn fyglyd, nid yn unig gan stem ond gan fwg y gwahanol stondinau sy'n coginio ar y platfform.
Yma y mae Ruskin a Carlyle, Goronwy Owen ac Emrys ap Iwan, Rousseau a Ghandi a Francis Thomson, wedi eu cludo yma yn berlau gan rywun a'u gwelodd yn rhywle ac a'u cododd ac a'u cadwodd yn loyw lân lathraid.