Cafodd dipyn o drafferth efo drws y garej yn gwrthod cau - roedd o wedi sôn droeon wrth y giaffar ac wrth Mrs Rowlands am gyflwr y clo yna - ac felly roedd hi bron yn bum munud ar hugain i wyth pan drodd o'r gornel i mewn i stad Llys y Gwynt ac roedd Elfed wedi gwylltio braidd efo Elsie Williams a'i chriw.
Ac wedyn byddai'n rhaid iddo ffonior giaffar efo'r neges am y siec yn y post.
Roedd y cynhyrchiad, felly, i fod i greu llun oedd yn caniatau inni ddarllen meddwl Ifans; ofn y genhedlaeth hŷn o offer mecanyddol, o fod allan o waith wrth gael eu sarhau gan newydd-ddyfodiad di-grefft sydd yn medru defnyddio'r offer hwnnw; ofn agweddau newydd o ddiffyg parch; ofn ffyrnigrwydd caled, hyderus y to newydd a chymysgedd meddwl ynglŷn a Chrefydd - a yw'r Giaffar yna i wrando ar yr holl gwynion hunan-aberthol?