Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

giaidd

giaidd

Eithr lladdwyd yn giaidd ar y cenedlaetholwyr fel ffasgwyr neu ramantwyr penchwiban.

Trodd Gareth i edrych o'i flaen - a sgrechiodd wrth i'r car blymio i lawr pant yn y ffordd a chornel giaidd yn ymddangos yn sydyn - brêcs y car yn sgrechian wrth i'r car fynd wysg ei ochr o amgylch y gornel - ac o'u hôl, y car arall yn ymddangos, ond yn methu â chymryd y gornel - yn taro'r ffens ac yn rhwygo drwodd - am eiliad, ymddangosai fel pe bai'r car am stopio ar ymyl y clogwyn, ond yna plymiodd tua'r môr a tharo'r creigiau islaw.

Weithiau rydach chi'n teimlo eich bod chi'n torri i mewn ar ddioddefaint pobl ac mae hynny'n gwneud ichi sylweddoli pa mor giaidd y mae newyddion yn gallu bod.

Rhwygai hon ei groen yn giaidd, ac aeth yn fwy anodd iddo barhau i afael yn dynn ynddi.

Y sŵn newydd ar ei warthaf, yn estyn yn giaidd amdano .

"Petai rhywbeth yn digwydd i'r cnaf byddai'r gelyn yn talu'r pwyth yn ôl yn giaidd.