Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

giamstar

giamstar

'Roedd Williams Post yn giamstar ar drin 'teledai' a chanddo fo y prynodd nhad un.

Mi fum i'n dipyn o giamstar gwthio berfa ar safle adeiladu flynyddoedd yn ôl...

'Ond 'dydi hi ddim yn iawn yng nghysegr Duw.' Nid oedd John y mab na chapelwr nac eglwyswr, ond 'roedd o'n giamstar ar drin clociau.

Yn ol y papur y dirgelwch oedd fod yr hwch wedi geni dau fochyn bach saddleback du, tri mochyn bach coch smotiog a dau bach glas, tipyn o gymysgwch ac yn ddigwyddiad arbennig iawn, hyd yn oed i giamstar ar fridio fel Hugh, a ddisgleiriodd yn y maes yma pan oedd yn efrydydd yng Ngholeg Amaethyddol Glynllifon.