Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gic

gic

Roedd Lloegr yn ffodus i fod ar y blaen 2- 1 ar yr egwyl diolch i gic o'r smotyn gan Alan Shearer a gôl gan Michael Owen.

Yng ngêm gyntar wyth ola ddoe, curodd y Ffrancwyr Sbaen 2 - 1 wedi i Raul wneud cawl o gic o'r smotyn i'r Sbaenwyr yn y funud ola.

Ar hyn o bryd y draws-gic gan Johnny Wilkinson yw ei harf mwyaf effeithiol.

Daeth y ferch i sefyll i wynebu'r ddau filwr a rhoddodd gic i'w gynnau o'r ffordd.

Trosedd gan Mark Aizlewood yn y cwrt cosbi yn arwain at gic rydd anuniongyrchol ac ergyd gan Lilian Popescu yn rhoi dim cyfle i Gary Wager.

Ond y dyfarnwr roddodd gic o'r smotyn.

Cei gic ddisymwth yng ngwaelod dy gefn ac rwyt bron â gweiddi mewn poen.

Trawodd y belen y darian gyda'r un grym ag y byddai pêl-droed o gic go hegar wedi'i wneud.

Arbedodd Martin Taylor yn dda o gic rydd Darren Ferguson.

Cafodd ei guro wedi 66 munud gan gic siswrn prif sgoriwr Port Vale - Tony Naylor.

'Fe adawon ni gôl wael mewn o gic rydd.

Yn yr hanner cynta, roedd y sgrifen ar y mur o safbwynt tîm y ddinas, gan i Phil Bennett drosi tair cic gosb allan o dair, tra llwyddodd Caerdydd i ymateb gydag un gic adlam o droed Gareth Edwards.

Dawn fwyaf arbenning y bardd yma yw efelychu a pharodïo rhai o gerddi enwocaf Cymru drwy'r oesoedd (cerddi fydd yn gyfarwydd i unrhywun sydd wedi gwneud lefel o ac A mewn Cymraeg), a gwneud hynny'n goeglyd a sbeitlyd, gydag ambell i gic yn ei neges.

Rhediad hir crymaidd o ganol y maes i'r asgell dde gan y maswr bach o Lanelli (a roddodd amser inni gofio am Cliff Morgan a Phil Bennett, a diolch yr un pryd y bydd gennym ni faswr o'r iawn ryw unwaith yn rhagor cyn bo hir), a dau gais, y naill ar ôl camgymeriad dybryd gan Thorburn a James Reynolds, yr asgellwr chwith ifanc, yn eu ceisfa, a'r llall, a'r olaf, pan ddaliodd Simon Davies y bêl o gic gosb Stephens wrth y postyn chwith.

Yn nhyb llawer, hwn yw'r mewnwr gorau yn y wlad, ond gorddweud yw hynny: gall amrywio'i chwarae cystal - rhedeg pasio a chicio, ac mai ei gic ef i'r gornel a barodd y trafferth i Gastell Nedd pan sgoriodd Andrew Morgan drydydd cais Llanelli.