Y gwir yw fod llenorion yr ansicrwydd anwadal fel Williams Parry a Pharry-Williams wedi llwyddo i greu llenyddiaeth eneiniedig ac ysgytwol heb ddilyn na Phantycelyn na Gide, a bu Saunders ei hun yn hael ei glod iddynt.
Yr unig feirdd a llenorion i heddu ei sylw yw'r rheiny sydd un ai'n cyfranogi o'r un weledigaeth Gatholig, glasurol ag ef ei hun, neu, fel Andre Gide yn adweithio'n hunan-ymwybodol yn ei herbyn.
Un felly yw Gide, ond ni cheir mo'i onestrwydd ef yng Nghymru.