Dyna sy'n gorwedd y tu ôl i'r chwedlau amdano'n gwrthdaro â Medrawd, ac â Huail fab Caw ym Muchedd Gildas.
Yr wyf yn cyfeirion at Fucheddau saint megis Cadog, Gildas, Carannog a Phadarn, a gyfansoddwyd yng Nghymru yn yr unfed ganrif ar ddeg a'r ddeuddegfed.
Y mae'n cynnig esboniad posibl ar ddistawrwydd Gildas ynghylch Arthur, ac ar y traddodiad amdano fel gormesdeyrn a rex rebellis, chwedl Caradog o Lancarfan, a geid yn yr Eglwys yn yr unfed ganrif ar ddeg.