Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gin

gin

"Sa gin i bres, mi brynwn i sleifar o gwch fel 'na," meddai Ieus a'i lygad yn pefrio o hyd.

Chum mawr i mi wyddost ti.' ''S'gin i ond gobeithio, Syr, y medrwch chi gysuro'i weddw o yn 'i hadfyd.' 'Paid ti â poeni am hynny, Obadeia Gruffudd.

Mi yfodd ormod o ddŵr pan aeth hi allan am funud ddoe, ac mi ddaeth i mewn a'i blewyn hi yn syth gin gryndod.

Mae Mr Robaits yn cael perthynas â Miss Parry, mae Mrs Jones yn yfed poteleidiau o gin y tu ôl i lenni ei thŷ, ac mae Mr Morris yn gwisgo dillad isaf merched.

"Mae gin i deimlad ein bod ni'n mynd i gal amser gwych efo'n gilydd"

Os mai dyna be' s'gin y Sianal ddwy a dima' Gymraeg 'ma i'w chynnig, waeth inni fod hebddi ddim .

''Fasa 'rhen dlawd yn medru hel y ffers 'tasa hi'n cal benthyg pynsiar gin y Paraffîn.' Daeth yn dro i'r wraig anwybyddu sylw'r gwr a cherddodd yn fân ac yn fuan i gyfeiriad y gegin allan.

"Lle ma'r ceffyl 'na gin ti?" gwaeddodd y goruchwyliwr arno yn ddiamynedd.

Pa gefndir s'gin y cythra'l gwirion yntê?

"Ma gin i ishio llonydd hefo nghinio." Trodd y dyn canlyn ceffyl o'r swyddfa'n siomedig a mynd yn ôl at ei waith wedi'r derbyniad swta yma.

Wel, cyn i mi gychwyn o'r Penmorfa hwnnw mi es i ati hi, i drio deud wrthi hi bod ddrwg gin i glywad am 'i chollad hi, a ...

Ar yr union eiliad honno pwy ddaeth heibio iddynt ond un o r stiwardiaid a gofyn i'r dyn: "Be sy'n bod ar y ceffyl 'ma gin ti?" A'r llall yn ei ateb ar drawiad megis: "Newydd gal golwg ar 'y mhapur setlo i mae o!" Cyflog digon gwael a gai y rhai a fyddai'n canlyn ceffyl yn aml, a'r papur setlo' oedd yn dangos maint hwnnw ar ddiwedd pob mis o weithio.

Heblaw ma' gin i hwn ylwch, y sach peilliad 'ma, am'i thin hi.'

'A sut ma' hi, Pyrs, wynab yn wynab â'i phrofedigath?' 'Fel cyw gog, 'ngwas i.' 'Y?' 'Mor sbriws ag erioed, ar wahân bod 'na dipyn o ffedoga o dan 'i ll'gada hi.' 'Mae'n dda gin i glywad 'i bod hi'n ca'l y gras i ymgynnal, ac ochneidio'n ddefosiynol.' 'Gwranda, Oba.

'Dal ar y cyfla ro'n i, Pyrs, i ga'l gair bach efo fy Nhad nefol.' 'A finna'n fa'ma, â chymaint o bwn gin i â bastard mul Nant Pwdin ar noson ffair.' 'Rydan ni yn ca'l ein hannog yn y Beibl i weddi%o'n ddi-baid.' 'Ydach, mi wn.

"Doedd gin i ddim mymryn o help, mi oedd hwnna wedi dwyn ein lle ni." Wnaeth Sam ddim troi ar 'i fab.

'A pheidiwch â defnyddio unrhyw air sy'n amheus mewn unrhyw ffordd.' Ac yn rhyfedd iawn wyddech chi, roedd na rhyw eiria, O, geiria roeddan nhw'n defnyddio nhw yn Sir Fôn, geiria bob dydd felly fel 'blonag' er enghraifft, O chaech chi ddim defnyddio'r gair hwnnw gin Sam mewn dim.

'Gin fi ffost beit, Mf Huws!' a chwythodd Malcym i'w ddyrna a dawnsio o un droed i'r llall yn ei siacad ledar ddu nad oedd hyd yn oed yn cyrraedd ei fotwm bol.

Yn honno, yr agosa' y mae'r rhan fwya' o newyddiadurwyr yn mynd at beryg' personol yw yfed gormod o gin ac mae dyfais a dychymyg lawn mor bwysig â ffeithiau, wrth iddyn nhw ei jolihoetian hi'n garismatig o le i le.

''Neno'r gogoniant, i be ma' isio i chi drampio'r wlad, gefn berfadd nos, yn malu ffenestri pobol onast?' ''Ddrwg gin i, Miss Willias.

Brysiodd Denis y Stiward o'i bulpud i geisio troi y locals meddw rhag tarfu ar brynhawnol hedd y sipwyr gin.

Yn yr act gyntaf, cawsom gipolwg sydyn ar bersonoliaeth a bywyd bregus ac ansicr Anna wrth iddi lowcio'r gin a galw ei chwaer yn bopeth o "bitch" i'r "hen ast".

Rhyw hanner dwsin oedd yn y bar yn sipian eu gin a'u tonics.

'Heblaw, o dan yr amgylchiada' presennol, ac o barch i hen ddyn 'ch tad pan oedd o, mi fydd yn blesar gin i rowndio dipyn.' Bu cryn anhawster i gael yr hwch i mewn i'r bus o gwbl.

'Ma' pawb yn brysur', meddai Gwyn, 'ma'n haws gin i gredu fod y copi yn dal i orwadd ar ei desg.

Ma' gin Anti Nel ei strydoedd - rhai fydd hi'n mynd iddyn nhw bob wsnos - ac mae'n rhaid bod y bobol yn disgwl amdani hi, achos gynta roedd hi'n dechra' gweiddi, "Picl, picl, pennog, pennog picl," mi oedd plant a phobol yn rhedag allan o'u drysa', a dysgla' yn 'u llaw, i brynu rhai.