Pan fyddid yn sôn am ei gampau'n gwagio siopau o'u nwyddau oll byddai hithau'n dal dano'n dweud, 'Wel, ddaru o ladd neb, yn naddo?' A phan ddaru o ladd Huws Parsli am y tro cyntaf dyma hi i'r adwy eto: 'Toedd dda gen i mo'r hen gingroen afiach beth bynnag.