Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ginio

ginio

Yna cofiodd Willie i Ellis Gruffudd ddweud nad llond bol o un peth a geid i ginio ond pigiad o'r naill beth ar ol y llall a hynny heb dalu ecstra.

Cawsom ginio yn Amlwch ac wrth gychwyn oddi yno am Gaergybi gwelsom un o longau cwmni y Blue Funnel yn hwylio'n weddol agos i'r arfordir, ac 'roedd gwledd arall yn ein haros yng Nghaergybi, sef cael mynd ar fwrdd y llong Cambria.

Esboniodd un gŵr wrthym dros ginio mai'r Iddewon oedd yn gyfrifol am gael gwared ohono o'i swydd.

'Roedd Edward yn bwyta 'i ginio fel arfer, ac yn siarad gyda'r gath ar fraich ei gadair bob yn ail.

"Ma gyno fo ishio llonydd i gal 'i ginio fel chitha y dwrnod o'r blaen!" oedd yr ateb a gafodd.

Yr un piws oedd y crandiaf, hwnnw a wisgai i ginio heno.

'Rydan ni'n gyfoethog, Siân!' gwaeddodd Tudur toc, wedi anghofio popeth am ginio a'r cerydd fyddai yn eu disgwyl yn y garafân.

Dowch, helpwch eich hun.' Mwynhâi Dan y bara' menyn a'r jam a'r bara brith yn fawr iawn, a theimlai'n newynog ar ôl ei ginio cynnar a brysiog.

'Feel at home 'de,' meddai Siwsam J wrth arwain ei gwesteion i ginio yn ystafell fwyta'r kibbutz.

Mynd allan am ginio i dy bwyta a chyfarfod nifer o athrawon Saesneg yno.

llyfrau, am yr ail neu'r trydydd tro weithiau, yn ystod ei hawr ginio wrth fwyta'r brechdanau y byddai ei mam yn eu gwneud iddi.

Yna roedd wedi mynd allan yn ystod yr awr ginio ac erbyn iddo ddychwelyd yr oedd hi wedi mynd.

'Mae y dynion yn canmol cyfarfod gweddi fu yn y Nant neithiwr, ac y maent yn awyddus am gael cyfarfod gweddi awr ginio heddiw yn Cwt Brake.

Pan gefais fynd i ginio misol y Gymdeithas Gymraeg teimlwn fod yna diddordeb mawr yng Nghymru a'i phobol, ond dim ond dau neu dri oedd yn gallu siarad Cymraeg.

"O, 'roedd Enoc fel beili mewn sasiwn heno." Erbyn i ni gyrraedd y stafell ginio yr oedd y lle'n ferw, a phawb yn cythru i'r bwyd.

Prin le i grogi cath." A minnau'n syth yn meddwl am Negro'n disgwyl am ei ginio, a lwmp yn codi yn fy llwnc i.

Chwaraeai sboncen o leiaf unwaith yr wythnos, yn ystod ei awr ginio, a rhedai ddwy filltir bob bore cyn brecwast beth bynnag fyddai'r tywydd.

Cawsant ginio ac aeth Fred at ei waith.

Erbyn hyn yr oedd cyfarfod y Nant yn cael llonydd, a'r dynion wedi cael testun newydd, sef fod cyfarfod gweddi i fod yn Cwt y Brake awr ginio.

Doedd dim amdani ond dringo'r grisiau i'r bwyty, a chan ei bod hi bron iawn yn hanner dydd, prynodd ginio i'r tri ohonynt er gwaethaf y prisiau dychrynllyd.

Gorffennodd ei ginio ac ymadael.

Wedi gorffen ei ginio, prysurodd allan i'r coridor.

Aeth Hector heb ei ginio y diwrnod hwnnw er mwyn carlamu i'r banc a'r siec - a phrofi siom fod y clerc yno mor ddifater yn derbyn yr arian.

Daeth yn ginio a bwytaodd pawb yn ardderchog.

Ac os trof fy ngolygon i'r de gwelaf grychydd yn llyncu pysgodyn yn yr afon, a churyll yn ymsaethu i lawr i ddal ei sglyfaeth, a dyn yn bwyta'r oen i ginio.

Cofiodd yn sydyn nad oedd wedi cael ei ginio a dechreuodd y dŵr redeg rhwng ei ddannedd wrth iddo feddwl am sglodion Mam yn frown-felyn ar y plât o'i flaen.

Cyn hynny gadawsai Menna fi, a mynd i ystafell ginio'r ysgol i wneud yn siwr fod y coffi a'r bwydydd yn barod ac mewn trefn.

Ac ar ôl bod ar eu traed bron drwy'r nos a'r holl firi roedd pawb yn hen barod am ginio Nadolig go iawn oedd yn cynnwys gŵydd a chig eidion.

Xia (is-bennaeth yr adran Saesneg) am ginio.

Mynd i dy bwyta moethus wedyn am ginio.

Yn ddiweddarach, yn ystod yr awr ginio, aeth i loetran y tu allan i ddrysau tai bach y merched = man na ddylai fod yn agos ato ar unrhyw gyfrif.

A doedd fawr ddim yn y tŷ i'r creadur ei gael i'w ginio, chwaith.

'Hei, Wil, meddai un, 'glywaist ti fod cyfarfod gweddi yn Cwt Brake awr ginio?' 'Do,' meddai Wil.

Trefnodd y ddau i fod yn ôl yn y fflat am hanner awr wedi deuddeg i ginio.

Newydd orffen ei ginio yr oedd William Parry, un o'r cymdogion, ac yn croesi cae gerllaw Tyddyn Bach pan glywodd sŵn ergyd, ond ni chymerodd fawr o sylw o hynny.

Cawsom ginio ardderchog er gwaethaf y prinder a daeth un o arbenigwyr yr ysbyty, Mr OV Jones, i dorri'r twrci ymhob ward.

Bwtyai nhw, ar ryw ffurf neu'i gilydd, gyda phob pryd; gyda'i facn i frecwast, a'i gig i'w ginio, ar dafell i'w de ac mewn salad i'w swper; yn falurion yn ei gawl, yn sudd yn ei saws, yn stibedi o gylch ei gaws; wedi eu berwi a'u ffrio a'u stwnsio a'u stwffio.

Yna daeth syniad i'w feddwl, yfory byddai e'n mynd i'r dref a bwyta ei ginio yn y caffi drws nesa i Swyddfa'r Post.