Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ginseng

ginseng

Mae'r Tseineaid wedi credu erioed fod ginseng yn arbennig o fendithiol i'r hen, ei fod yn peri i ddyn fyw yn hŷn ac yn gwella ansawdd ei fywyd.

A rhinwedd mawr ginseng yw ei fod yn cyflawni hyn heb gynhyrchu sgîleffeithiau annymunol fel y gwna symbylyddion arferol y Gorllewin megis caffîn ac amphetamine.

Yn rhyfedd iawn, mae i ginseng hefyd rinwedd gwrthgyferbyniol; mae natur cyffur lliniaru ynddo.

Dangosodd yr Athro Petkov ymhellach fod ginseng yn amddiffyn y corff rhag effeithiau tyndra a straen.

Mae hyn yn arwain i'r syniad mai adaptogen yw ginseng, sef meddyginiaeth sy'n cynyddu gallu'r corff i addasu ac yn gweithio yn unig pan fo angen.

Dangosodd fod llygod a borthwyd ar ginseng am fis yn medru nofio heb ddiffygio ddwywaith gyhyd â llygod na chafodd ginseng.

Mae gwyddonwyr eraill o Rwsia wedi dangos fod dynion yn gweithio'n well ac yn gywirach wedi cael ginseng am ei fod yn symbylu'r gyfundrefn nerfol.