Bellach, roeddwn yn dechrau amau y milwr yn stesion Corwen y diwrnod cynt a ddywedodd fod digon o gantîns ar gael; soniodd o ddim am y chwarter milltir o giw a welech ymhob lle felly.
Gwelais fod yno gantîn wedi agor ac ychydig o giw yn casglu.
(Esboniwyd wrthym ar ol hynny nad oedd y gyfraith yn caniatau i unrhyw silff mewn siop fod yn hollol wag.) Mewn un cornel o'r ystafell safai dau giw hir o bobl yn ddistaw ac yn llonydd.
Arhosai'r rhai yn y naill giw yn amyneddgar i brynu tocyn, ac yr oedd y rheini yn y ciw arall yn disgwyl cyfnewid eu tocynnau am rai o'r ychydig nwyddau oedd ar gael.
Euthum allan bron cyn iddo sefyll, nid wyf yn cofio beth a wnaeth Aled ond fe wthiais fy hun i giw bwyd a oedd erbyn hyn bron â phrifio'n glamp o iâr!