Yr adeg honno yr oedd gorsaf nwyddau dros y ffordd i'r carchar - ac mae'n anodd dweud ym mha un o'r ddau le yr oedd y giwed mwyaf.
Pwy a wêl fai arno am grio a chnadu a'r fath giwed yn ei biwsio?
Yn sydyn rhuthrais am un o'r giwed, ac wedi gafael ynddo a'i wasgu, yn ôl cyfarwyddiadau Capten, mi rois hergwd iddo â'm holl nerth, nes peri iddo syrthio ar ei hyd ar lawr.
I'r Anglicaniaid, un o'r giwed Gromwelaidd ydoedd, penboethyn.
Un o'r golygfeydd gwleidyddol rhyfeddaf o fewn cof i mi oedd y lluniau hynny ar y teledu o Gerry Adams, arweinydd Sinn Féin, yn annerch seiswn cyntaf Cynulliad Gogledd Iwerddon mewn Gwyddeleg gyda'r Parchg Ddr Ian Paisley a'i giwed yn edrych arno'n hurt.