Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gladdu

gladdu

Pan landiodd Begw ym Mhendre, doedd neb adra ond fy nain, a phan ddywedodd Begw fod Rondol wedi marw ac nad oedd ganddi'r un ddima i'w gladdu, ar ol paned o de, fe gafodd chweugain.

Ma' meddwl am orfod gwrthod bwydydd 'afiach' yn ddigon i wneud i my gladdu ym mocs bisgedi Mam.

Rondol wedi marw, ac mae heb ddima i'w gladdu'.

Ac mi af innau y ffordd arall ac mi welaf rywun ac mi ddwedaf innau dy fod ti wedi marw, ac nad oes gennyf yr un ddima goch y delyn i dy gladdu'.

Yn ôl cyfraith gwlad yr oedd rhaid ei gladdu wedi machlud haul gan nas bedyddiwyd.

'A phan gyrhaeddodd Meiledi'r porthladd roedd y newydd, newydd gyrradd, bod 'i gorff o wedi'i gladdu yn yr eigion.' ''Fedra i ond dychmygu maint 'i siom hi, a chydymdeimlo i'r byw.' ''Does dim raid i ti fyta bara gofidia yr un eiliad yn 'chwanag.

Yn gynta', fod Aled wedi'i eni'n artist, ac y byddai'n bechod i chi na neb arall gladdu'r dalent sydd gynno fo.

`Mae'n rhaid ei fod ef wedi cael ei gladdu o dan yr eira 'ma,' gwaeddodd un o'r dynion.

Fe aeth drosodd i Efrog Newydd am rai blynyddoedd, a daeth yn ol i Gymru, ond yr oedd ei iechyd wedi torri i lawr a bu farw yn fuan a'i gladdu gyda'i ferch fach ym mynwent Capel Soar, Brynteg.

Fel Theophilus ei hun y mae gwreiddiau'r Athro Jenkins yn sir Aberteifi, ond Brycheiniog oedd y winllan y bu Theophilus yn llafurio ynddi am ran helaeth o'i oes ac yn Llangamarch y mae wedi ei gladdu, a hynny heb fod nepell o faes y Brifwyl eleni.

Galwai laweroedd i'r fenter; a gwyddom i rywrai ymesgusodi rhag ei ddilyn ac i rywrai ymgynnig ac wedyn tynnu'n ôl - y sefyllfa sydd yn gefndir i rai o ddywediadau 'celyd' Iesu megis 'Gad i'r meirw gladdu eu meirw' (Luc ix.

Mae arna i eisiau iddo fo ddod acw i gladdu Ffred druan.

A phaid ti â hel hen syniadau gwirion am ddianc neu mi fydda i'n dy gladdu di yn y twll yna yn lle'r sach.

Amlygiad o'i safle yw iddo gael ei gladdu ym Margam.

Anogwyd Mr Rowland George, y ffermwr, gan yr ardalwyr i ail-gladdu'r penglogau 'rhag i anlwc ddodd i'w ran'.

Mae'n dweud hefyd fod corff Owain wedi'i gludo i eglwys St Leger gerllaw i'w gladdu.

Ychydig o'u hoffer sydd wedi'u darganfod yng Ngheredigion ac am yr ychydig enghreifftiau o gladdu dan gromlech sydd yn y sir, tybir mai i gyfnod diweddarach y perthynant.

Tyfodd yma yn y dyfroedd croyw wedi i'w rieni ei gladdu yn un o filoedd o wyau yn y gro.

"Gwraig ifanc bedair ar ddeg ar hugain oed 'ryn ni'n gladdu 'ma heddi," meddai'r pregethwr.

Wedi ysbaid yn edmygu gwaith cywrain yr arlunydd bywyd gwyllt, ceir cyfle i gael blas ar fywyd yn ystod Oes Newydd y Cerrig wrth gerdded i mewn i dywyllwch siambr gladdu Barclodiad y Gawres ger Aberffraw.

Yna, mae'n rhoi haenen o bridd i wahanu ei fab a'r plentyn nesaf a gaiff ei gladdu yn yr un bedd.

Faisa Hassan yw'r pumed plentyn i gael ei gladdu yn Kebri Beyah heddiw - dyna yw'r nifer dyddiol arferol erbyn hyn.

Byddai'n bwrw i'r darllen â brwdfrydedd gwyntog, ond os digwyddai fentro i faes cymhleth y 'bennod gladdu' yn y Corinthiaid, byddai'n dueddol o faglu ar draws brawddegau aml-gymalog yr Apostol Paul.

Dyw mam ddim yn hoffi trefn y capelwyr o gladdu.

Llithrodd wal o eira lawr y mynydd, ei wthio o'i blaen a'i gladdu mewn eiliad.

Y diwrnod prudd hwnnw pan oeddem yn ei gladdu, a phan oeddwn yn ymwybodol yn hytrach nag yn gweld y cannoedd o bobl a ddaeth ynghyd yr wyf yn cofio fy mod yn synnu wrth feddwl i dwll mor fychan y rhoddid Abel, ac am y twll mawr a adawsai efe ar ei ôl na allai neb ei lenwi.

Gofynnodd iddi a âi at y saer a pheri iddo agor bedd o'r newydd gan nad oedd am i'r cythral gael ei gladdu efo'i fam.

"Mae hi'n drueni na fuaswn i'n medru dweud wrtho fo am y trysor sydd wedi'i gladdu o dan y meini hirion." "Y trysor!

Anfonodd Harri ddau o'r gweision i gladdu'r ceffyl nid oedd yn werth ganddo ofyn iddynt ei flingo.

Ond dyn a ŵyr sut ddaru nhw ei gladdu o.

Rydw i wedi mynd â fo adref ac wedi ei lapio fo yn y blanced oedd ganddo fo gael ei gladdu wrth ochr y gwely riwbob lle byddai o'n hoffi gorwedd yn yr haul o dan gysgod y dail.

Yn ystod abadaeth Lewis Tomas hefyd y canodd Tomas ab Ieuan ap Rhys ei gwndid nid anenwog lle sonia am ei gysylltiad bore a Margam ac am ei ddymuniad i gael ei gladdu yno.