Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

glanhau

glanhau

Sam oedd "Handi-man" y swyddfa, yn glanhau'r lle (fwy neu lai), yn mynd ar negesau, ac - yn bennaf dim - yn gofalu nad oedd yr un ymwelydd yn ymyrraeth a mi pan oedd arnaf eisiau llonydd i ysgrifennu.

Cysgoda drosom; gwarchod ni; nertha ni pan fo gwendid yn ein llethu; arwain ni pan awn ar ddisberod; adnewydda'n gobaith pan fyddwn yn digalonni; eneinia ni â'th faddeuant i'n glanhau oddi wrth staen ein pechod.

Mae'n anlwcus iawn dod at y 'tee' o'r tu blaen, rhaid peidio newid y ffon unwaith byddwch wedi ei dewis a pheidiwch â glanhau'r bêl yn ystod gêm os ydych ar y blaen.

Ac yr oedd yn yr un adeilad wraig dlawd a'i gorchwyl ydoedd glanhau lloriau swyddfeydd, a'r grisiau a gysylltai loriau gwahanol yr adeilad hwnnw.

Pan oedd yn hogyn, byddai'n cynorthwyo yn y stablau a'r tafarndai yn y dref, yn rhedeg ar neges i hwn a'r llall ac yn glanhau esgidiau yn yr Eagles, oedd yn dafarn ar lwybr y goets fawr rhwng Llundain a Chaergybi bryd hynny.

Allan ar y môr yr oedd ei le yntau, nid yn tindroi'n ei unfan yn yr hen harbwr, yn rhwydo pysgod ddydd ar ôl dydd, yn eu glanhau a'u gwerthu heb fawr o dâl am ei drafferth na fawr o seibiant o fore gwyn tan nos.

Dileodd y rhain lawer iawn o ddiflastod beunyddiol y gorchwylion cyffredin - golchi, glanhau, gwresogi, smwddio, coginio, cadw bwyd, ac i mi eillio, oedd yn gas beth gen i a fy nhad, gyda'r asarn hen ffasiwn.

A'r wraig dlawd oedd ar hanner glanhau y grisiau hynny.

Ond nid oedd efe yn ystyried bod rhai o'r ddynolryw yn ennill eu bara beunyddiol drwy lanhau swyddfeydd, gofalu am ffwrneisi gwres a'r rhai y mae eu cyfrifoldeb yn ymwneud â glanhau ffenestri.

A dyna Emyr yn dod i mewn i'r gegin i chwilio am yr esgidiau sboncen roedd hi wedi eu glanhau ar ei gyfer a'i chlywed hi'n dweud wrth ei mam y byddent yno erbyn amser te.

Mewn coleg yn Havana, gwelais fyfyrwyr yn glanhau'r adeilad ac yn golchi llestri.

Rhaid iddo hel yr anifeiliaid o'i lori a'i glanhau i gario wardrob byrddau a chadeiriau!

hylifau glanhau, inciau llungopi%wr a chlytiau sydd wedi'u mwydo mewn olew neu doddyddion.

Wfft i drenau drafftlyd ar noson fel heno.' Roedd y dynion wrthi'n sgwrsio, yn yfed te a glanhau'r ager o ffenestri eu bocs arwyddo pan glywsant s n cloch.

Yn Rhiwlas, lle'r oedden nhw'n byw cynt, byddai Mam yn gweithio rhan-amser yn y siop ffrwythau, ond yma doedd hi'n gwneud dim byd heblaw gofalu am Malu a glanhau'r tŷ, a doedd hynny ddim yn dod ag unrhyw arian i mewn.

Defnyddiau eraill a gynhyrchir yn gemegol yw sebonau glanhau, plastigau a rwber.

Yr oedd ganddir gras ataliol i beidio â chyfeirio at y ffaith ei fod hefyd heb ei ail ar gyfer glanhau stomp.

Un nos Sadwrn cyrhaeddodd adref yn hwyr o'i waith a dechreuodd baratoi ar gyfer y Sul trwy ddechrau glanhau ei unig bâr o esgidiau.

Mae mam Aled wedi cadw tŷ ichi am ddeng mlynedd yn ddi-dal - wedi cwcio, golchi, glanhau..." "Mae hi'n gripl." "Hi sydd wedi gneud holl waith y tŷ er 'i bod hi'n gripl.

Wedi glanhau'r graig mae'r dynion sydd ar y gwaelod yn cad yr arwydd ei bod yn ddiogel iddynt hwy ddechrau ar eu gwaith.

Bob bore roedden nhw i gyd yn brysur yn y tŷ, yn glanhau ac yn coginio, yn golchi ac yn smwddio.

Glanhau Dyn Gwahanglwyfus

Syrthiodd defnyn o boer i'i cheg ar y darnau, ac, yn frysiog, rhedodd i nôl y dystar i'w glanhau.

'Cyfaill yr iau' y gelwid sicori gan Galen, y meddyg Groegaidd o'r ail ganrif OC Yn ôl coel gwlad ar hyd y canrifoedd yr oedd sicori'n medru glanhau'r corff o wenwyn.

Pryd ddiwethaf (os erioed) y gwelsoch chi'ch mamau yn pobi bara (erbyn hyn daeth pobi gartref yn orchwyl ymwybodol, nid yn anghenraid) ac yn treulio rhan dda o'r dydd yn glanhau'r tŷ gan flacledio'r lle tân a golchi'r aelwyd?

Pan ddaeth at y cyhuddion ynglŷn â glanhau caets y caneri, oedodd y wrach yn hwy nag oedd angen dros y gair caneri, a dyma Mini'n codi'i phen i edrych ar ei chwaer.