Mae hyn yn amlygu rhywbeth pwysig am glasuraeth Saunders Lewis.
Wrth son am 'led-glasuraeth' y ddeunawfed ganrif mae Saunders Lewis yn datgan yn feirniadol: Nid oedd ei threfn hi, ei synnwyr da a'i chytgordiad, yn effaith meistrolaeth eang ar gynnwrf profiadau, ond yn hytrach yn gynnyrch crebachu profiad a rhannau pwysig o gyflawnder bywyd.
O'm rhan fy hun, er credu ohonof ddyfod yr adeg i ramantiaeth hithau ddatblygu yn glasuraeth newydd, megis yr aeddfedodd dyneiddiaeth y Dadeni yn glasuraeth, eto ni welaf i y gellir ymwrthod ag egwyddor hanfodol rhamantiaeth.