Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

glec

glec

Maent yn ei agor hefo cyllell, ac yn ei ail danio, ac i fyny'r rhaff â hwy, cyn gynted ag y gallent, a dyrna glec a thwrw mawr gan y cerrig yn rhowlio i lawr wyneb y graig.

Roedd y Wraig wedi bod yn defnyddio'r dŵr poeth trwy'r dydd gan nad oedd dim o'r llall ar ga'l ac fel yr oedd Ifor ar roi ei fawd ar gliciad y drws clywodd y glec fwya annaearol a glywodd erioed!

Arhosais i bethau ddod atynt eu hunain ryw ychydig: y fegin yn dal i weithio er bod yr esgyrn yn ratlo ar ôl y glec, ac roedd y byd yn dechrau sadio wedi fy nhaith din-dros-ben drwy'r awyr ar ddeng milltir ar hugain yr awr.

Plygodd i godi'r pentwr papurau ar yr union funud y plygodd Lisa i wneud yr un peth, a thrawodd eu pennau'n glec yn erbyn ei gilydd.

Roedd y glec ar fy mhen hefo'r cardyn post o Gemper yn ffisig i 'noctor i.

Bu anferth o glec, a chwympodd yr awyren i'r ddaear.

Edrych dros fy ysgwydd chwith i gyfeiriad y coed o'r lle daeth y glec.

Roeddwn i'n mynd yn ddel a'r gwynt o'm tu a'm cyfeillion ar y lan yn llawn brwdfrydedd pan glywais glec, a theimlo rhywbeth yn taro un o'r tanciau.