Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

glefyd

glefyd

A chan fod archwiliad meddygol rheolaidd ar y merched hyn, yr oedd y drefn swyddogol yn gwarchod rhag i glefyd gwenerol ledaenu ymysg y milwyr.

Ychydig flynyddoedd yn ôl darganfuwyd math o glefyd gwenerol (VD) nad oedd modd ei drin gydag antibioteg arferol, a gychwynnodd yn y Philippines.

Mae'r Undeb yn credu'n gryf y dylai'r clafr barhau i fod yn glefyd sydd raid ei hysbysu i'r awdurdodau ac y dylai fod pwerau i rwystro symud defaid er mwyn gallu trin diadelloedd sydd wedi eu heintio.

Ysbrydolwyd y gerdd gan farwolaeth glöwr 48 oed, aelod o gapel y bardd a chyfaill iddo, a fu farw o glefyd y llwch.

Cwynfan Serb yng ngwres ei glefyd, Pell y wawr a'r nos yn hir, Hiraeth bron am wynfyd mebyd Hwnt i gaerau Monastir.

Dywed ei fod yn dioddef o glefyd serch a honna fod ei fywyd yn ddiwerth heb ei gariad.

'Mae nifer helaeth o broblemau iechyd, yn amrywio o'r clefyd siwgwr i glefyd y galon, yn gysylltiedig â bod yn rhy drwm.

Mae'r rhan fwyaf o'r coed llwyfen oedd yn Llŷn ddeng mlynedd ar hugain yn ol wedi marw o ganlyniad i glefyd a ddaeth i'r wlad o ffwrdd.

Gwaith Angela fydd helpu doctoriaid i ddatblygu cofrestrau afiechydon i sicrhau y bydd cleifion sy'n debyg o ddiodde o glefyd y galon yn cael y driniaeth orau bosib," meddai.