Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gleision

gleision

O fewn ychydig fisoedd i ddrama Iorwerth Glan Aled weld golau dydd cyhoeddwyd yn y papur dylanwadol Yr Amserau ddarnau helaeth o ddrama ddychan yn dwyn y teitl Brad y Llyfrau Gleision heb enwi'r awdur.

Hanfod neges y Llyfrau Gleision yw sylwadaeth ar addysg yn Lloegr yn ogystal â Chymru.

Fy marn i yw mai'r hyn sy'n esbonio amrywiol gyfeiriadau ymchwil y Llyfrau Gleision yw bod y Llywodraeth, a chymryd pethau yn y modd symlaf posibl, yn awyddus i weld sut y gallai hi wella'i gafael ar ymddygiad y Cymry, ond fod Kay-Shuttleworth, ac efallai Symons a Johnson, yn awyddus i ddod o hyd i dystiolaeth ddigamsyniol dros sefydlu cyfundrefn o addysg wladol - ac nid i Gymru'n unig swydd.

Roedd enw addas i'r lle hwn sef Disgwylfa ac ar ddiwrnod braf gellid edrych dros gefn Cadlan gyferbyn a gweld y bryniau gwyrdd yn codi drum ar ol trum, nes cyrraedd uchelfannau y Bannau gleision.

Unig gŵyn Caradog Huws, Caeau Gleision, ynglŷn â'r bysys oedd nad oeddynt yn cadw at yr un amser bob dydd.

(Ganddi hi roedd y baedd Large White gorau ar Benrhyn Llyn.) Rhesymau gwahanol, fodd bynnag, a barai fod y postman lleol - priod a thad i bump o blant, a blaenor gwerthfawr gyda'r Annibynwyr - yn troi i mewn i Gerrig Gleision ambell i fin nos o dan yr esgus o ddanfon teligram.

Wrth ymdrin â'r Llyfrau Gleision, rhaid cofio i'r drafodaeth ar y pryd ddigwydd yng nghyd-destun y ddadl ynglŷn â grantiau i addysg.

Mae Derfel i raddau'n dilyn barn y Dirprwywyr Addysg yn y Llyfrau Gleision am gyflwr Cymru; er enghraifft, eu cyhuddiad nad oedd neb o bwys erioed wedi codi o rengoedd gwerin Cymru, ac nad oedd unrhyw lenyddiaeth o werth yn y Gymraeg, ac i raddau y mae'n pastynu pethau a oedd yn gas ganddo ef yn bersonol, megis beirniadaethau eisteddfodol neu awen glogyrnaidd y beirdd Cymraeg.

Fel y dywed ef maent yn sylwadau mwy teilwng o Frad y Llyfrau Gleision neu George Thomas nac o'r Cynulliad Cenedlaethol cynhwysol newydd.

I ganol yr olion yma o ddinistr ac ymrafael y cyrhaeddodd John Griffiths, gyda'r bwriad, fel yr esboniodd yn ei lith cynta' o ddangos `olion y galanasdra ofnadwy diweddar - olion y trychineb y mae y wlad newydd ddyfod drwyddo - Gweled rhai o gleision y dyrnodiau - o doriadau a chreithiau yr ymdrechfa aruthrol sydd yn bresennol newydd ddyfod i derfyniad.

Anodd dweud erbyn hyn beth oedd bwriad Iorwerth Glan Aled wrth ei sgrifennu, ac er ei bod yn ddigon actadwy, anodd dweud faint o actio a fu arni, ond dyma'r gwaith, yn fwy na thebyg, a sbardunodd Robert Jones Derfel i sgrifennu ei ddychan ar ffurf drama â'r teitl Brad y Llyfrau Gleision.

''Sna 'di o wahaniath mawr gynnoch chi, 'dwi am drio'i 'nioni hi am Gerrig Gleision, draws caea'.' 'A 'ngadal i yn fama, ar 'y maw?' 'Fedar y bus aros ylwch.

Ond doedd y cochion ddim wedi cwbwlhau eu gorchest, ac fe fylchodd Roy Bergiers mor effeithiol fel na fedre'r gleision rwystro'r wythwr, Hefin Jenkins, rhag croesi am gais arall, i'w throsi gan Phil, i roi deg pwynt ar hugain ar y sgôrfwrdd--yn erbyn saith pwynt Caerdydd Nid gwneud cam â Chaerdydd yw dweud eu bod nhw wedi rnethu gyda chwe chic at y pyst, wrth iddyn nhw ddefnyddio Gareth Edwards, Leighton Davies a Keith James yn eu hymdrechion.

Sicrhaodd ein rheng flaen feistrolaeth lwyr ar reng flaen y gleision, a chan i Derek Quinnell ei hyrddio'i hunan o gwmpas y cae roedd gofyn cael dau neu dri i'w daclo a'i rwystro.

A'r ddogfen bwysig nesaf ynghylch sefyllfa a dylanwad y Gymraeg yw adran fawr R W Lingen yn Llyfrau Gleision 1847.

Cwynir yn fawr yn y Llyfrau Gleision am ansawdd gwael yr athrawon.

Ni ellir gwadu nad Brad y Llyfrau Gleision a daniodd enaid Ieuan Gwynedd ac a fagodd ynddo wir ymdeimlad o Gymreictod a gwladgarwch.

Un bore, 'roedd Deiniol yn hwyr yn cyrraedd llidiart Caeau Gleision, a Charadog yn anesmwytho gan fod gwaith y fferm yn disgwyl.

Dywedwyd yn union hynny yn y Ddeddf Uno, yn y Llyfrau Gleision, a throeon lawer.

'Fasa' hi'n rwbath gynnoch chi, Ifan Ifans, i fynd â'r hwch 'ma a finna' heibio i Gerrig Gleision?

'William, cariad,' pletiodd Mildred, ' sut yr ewch chi i Gerrig Gleision 'rawr yma o'r nos?' 'Wel, efo bus siwr dduwch.

Yr enwocaf o'r criw llafar hwn, yn y cyswllt presennol, oedd y Parchedig Evan Jones (Ieuan Gwynedd), Tredegar, prif ladmerydd y Cymry yn ystod 'argyfwng' y Llyfrau Gleision.

Gwr byrgoes a boliog ryfeddol oedd y rheithor, un a chanddo wyneb llyfndew, gwritgoch â llygaid gleision yn berwi o ddireidi.

Chafodd Dora Williams, Cerrig Gleision 'rioed fabi, na gwr iddi'i hun, ac wedi colli ''rhen bobol' yn nechrau'r tridegau ymrodd i droi tyddyn caregog yng ngwynt Porth Neigwl yn amgenach tir ac i fagu stoc a ddenai borthmyn yno o bellter mawr.

Môr a thraeth, mynyddoedd uchel, erwau gleision, neu ddinasoedd yn llawn o adeiladau hanesyddol, diddorol nid oes diwedd arni.

A 'drychwch welwch chi'r Cerrig Gleision cythril hwnnw yn rwla.' Craffodd William Huws, a'r hwch (ond am resymau gwahanol) drwy ffenestr y bus ac i'r gwyll.

Brad y Llyfrau Gleision yw'r enw a roddwyd ar yr adroddiad hwn yng Nghymru.

Roedd ganddo fwstas melyngoch, llygaid gleision a gwisgai sbectol gwasgu-trwyn.

Ar un wedd dyna ddatguddiad rhyfeddaf a mwyaf cyffrous y Llyfrau Gleision.

Os adwaith yn erbyn y Llyfrau Gleision a roes gychwyn i genedlaetholdeb Cymreig yn ail hanner y ganrif, rhaid cyfaddef hefyd mai'r Llyfrau Gleision a orfu.

Newydd adael y cwm cul yr oedd e ac wedi cyrraedd dyffryn toreithiog o feysydd gleision.

Ar ôl ymddangosiad y Llyfrau Gleision, polareiddiwyd y ddadl, ac er bod nifer o offeiriaid yn Gymry gwladgarol, a rhai ymdrechion dilys ar droed gan yr Eglwys er ceisio gwasanaethu'r Cymry yn yr ardal ddiwydiannol, yr oedd offeiriadaeth Eglwys Loegr fel corff wedi colli pob cydymdeimlad gan yr Ymneilltuwyr.

Ymhen rhyw ddwy filltir o Abergwesyn daw terfyn ar y coed gleision yr ochr draw i'r afon a daw llechwedd noeth Cein Alltwinau, a'r gwrychyn o graig ar ei war, i'r golwg.