Agorodd Mary'r drws iddo ymhen hir a hwyr gan wneud esgus ei bod wedi pendwmpian ar y soffa a'i bod yn rhaid bod y glicied wedi dod i lawr ar ddamwain.
Ryw noson, a Rondol ar waelod y grisiau cefn heb yr un ddima i godi'r glicied, fe gredai yn y cyflwr hwnnw mai yn ei wylltineb y creodd y Creawdwr gors Bodwrog, ond ei fod wedi dod ato'i hun pan greodd feysydd haidd yr ardal, a esgorodd ar y wyrth o fedru gwneud cwrw; ac fe gydsyniodd a fo'i hun nad oedd yn iawn fod yr hyn a elwir yn ddim yn medru sefyll rhyngddo fo a'i beint.
Pan ddengys lilith ichi mor hyfryd yw'r olygfa o ffenestr y llofft ac fel y mae'r domen dail yn rhoi cydbwysedd artistig iddi, peidiwch â'i alw'n rhagrithiwr melltigedig na'i daro dan glicied ei ên.