Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

glin

glin

Nid yw'r anaf i'w ben-glîn wedi gwella'n iawn ond mae e'n disgwyl bod 'nôl yn y tîm ar gyfer y gêm gynta yn y Cynghrair Un-dydd ddydd Sul - yn erbyn Sir Darbi.

Mae cyfnod Mark Taylor fel capten tîm rygbi Cymru wedi dod i ben gyda'r newydd y bydd yn derbyn triniaeth lawfeddygol i'w ben-glîn heddiw.

Yn wir, er gwaethaf neu oherwydd y gwaed oedd yn pistyllio o'm trwyn, mewn dau funud roedd fy mhen-glin chwith yn gwasgu ar gorn-gwddw fy ngwrthwynebwr, a chawn foddhad neilltuol o weld y croen o dan ei lygaid yn twitsian yn nerfus, cynyddai fy mwynhad am fod haid o blant o'n cwmpas rŵan yn sgrechian eu gwerthfawrogiad.

Doedd e dim ar gael yn y ddwy gêm gyntaf oherwydd anaf i'w ben-glin.

Difwynodd fwy nag un clos pen glin â'i charnau bawlyd.

Ymwthiai pen-glin y goes arall o dan ei glogyn, oblegid roedd eisoes wedi codi un droed yn barod i'w chicio drwy'r drws.

Bydd maswr Cymru, Neil Jenkins, yn cael triniaeth yn gynnar yr wythnos nesa ar fân-anaf i'w ben-glîn.

Ac ar ôl teithio ychydig, fe darawodd fy mhen glin yn erbyn carreg finiog, a dechreuais waedu'n ddrwg.

Yr oedd yna lun plentyn mewn sgert neu drywsus pen glin a sana beic a thamishantar yn gorwedd ar ei fol ar lawr yn darllen ar gornel isaf cas glas y gyfrol a adwaenwn i o Nedw, Tegla Davies.

Cyrhaeddodd Alan Shearer Wlad Belg ddoe ar ôl cael sgan ar ei ben glin.

Cafodd ei saethu yn ei ben-glin mewn ymrafael gyda'r heddlu rywdro, a byth er hynny mae'n cerdded gyda herc.

'Siarad yn gall, ddyn, neu cau dy geg,' meddai Vatilan, yn codi pen-glin rhwng coesau Gemp ac yn torri cawg Kemper llun dyn llodrau llydan am e ben.

Ar ddiwedd y daith honno roedd yn ofynnol i ni wedyn gario un o'n cydfilwyr ar ein hysgwydd am gan llath, yna gwyro ar un pen-glin, a saethu at darged, ac os na lwyddid i gael hanner yr ergydion naill ai i'r canol neu o fewn ffiniau'r magpie' - fel y'i gelwid - rhaid fyddai gwneud y daith unwaith yn rhagor.

Kate yn mynd i gael acupuncture a thriniaeth drydan i'w phen-glin.

Bu straeon am gyfrifiaduron pen glin wedi eu pesgi a chyfrinachau yn cael eu gadael ar drens.

Penderfynodd rheini aros, gwylio a gobeithio y buasai'r mul yn plygu glin.

'Tydi gair Huws Parsli'n profi dim i neb,' meddai PC Llong yn codi i'w draed ac yn plygu ei ddau ben-glin tuag at allan.

Dillad yn arwydd o newid delwedd y ferch: 'roedd sgertiau'n uwch na'r ben-glin, ond nid cymaint yng Nghymru lle ceid agweddau cymdeithasol mwy ceidwadol.

Roedd y cyfeiriadau niferus at Ddafydd yn herio Goliath a frithai bapurau newyddion y gorllewin pan oedd gwledydd y Baltig yn gwrthod plygu glin i Gorbachev yn siŵr o fod yn drysu llawer o'r Rwsiaid yn lan.

Ni allai Iddewon na Christnogion gydnabod ei ddefnydd haerllug o'r fath deitl na phlygu glin i greadur mor goeg.

Bydd chwaraewr canol-cae Cymru Robbie Savage yn cael archwiliad arall ar ei ben-glîn heddiw i weld a fydd e'n ddigon iach i chwarae yn y gêm yn erbyn Iwcrain wythnos i ddydd Mercher.