Un bore, beth amser ar ôl ei throedigaeth, penderfynodd Pamela weddi%o ar ei gliniau cyn cychwyn ar ei gwaith dyddiol.
Mae rhai o gwmpas sy'n ddigon pethma i godi cywilydd ar y diafol, ac maent yn dda ar eu gliniau yn y capel, er bod eu gweddiau cyn wanned a dwr'.
O dan ei bennau gliniau cydiwyd ffriliau ei drowsus gan rubanau gwyrdd.
Wnâi e mo hynny hyd yn oed pe dôi hi ato ar ei gliniau gan grefu arno.
Disgynnodd ar ei phennau gliniau yn y fan a'r lle ac meddai, "Arglwydd, dydw i erioed wedi haeddu'r enw 'Mam'.
Mentrais osod un troed ar y drws, ac yna eisteddais arno a'm pennau-gliniau yn cyffwrdd fy ngên gan ddal fy anadl ac yn disgwyl suddo.
'Doedd Heledd erioed o'r blaen wedi gweld ci bach newydd ei eni, ac aeth ar ei gliniau wrth y fasged a rhyfeddu.
Erbyn pnawn Mercher dyma gadael y siap 'swch' i droi, plygu'r gliniau, plannu'r polyn yn yr eira, naid bach i fyny ac i rownd y tro.
Roedd y stori yn 'Woman's Own' yn sôn am dad oedd wedi dweud wrth ei blant bod anifeiliaid y greadigaeth i gyd yn mynd i lawr ar eu gliniau am hanner nos noswyl y Nadolig o barch i ddydd geni Iesu Grist.