Y gwir yw fod llenorion yr ansicrwydd anwadal fel Williams Parry a Pharry-Williams wedi llwyddo i greu llenyddiaeth eneiniedig ac ysgytwol heb ddilyn na Phantycelyn na Gide, a bu Saunders ei hun yn hael ei glod iddynt.
A thrannoeth y bore y gwahanasant [Geraint a'r Brenin Bychan] ac ydd aeth Geraint parth â'i gyfoeth ei hun a gwladychu o hynny allan yn llwyddiannus, ef a'i filwriaeth a'i wychdra yn parhau gan glod ac edmyg iddo ac i Enid o hynny allan.
Un o'r haneswyr uchaf ei glod oedd Walter Raleigh.
I'r arweinwyr, roedd y llwyddiant dirybudd yn gymaint o broblem ag o glod.
Hi oedd pencampwr sbaniels y sir ac roedd hynny'n glod mawr.
I Y Gymdeithas Wyddonol Genedlaethol mae'r pennaf glod am hyn.
Byddent yn aml yn enwi'r eglwysi a godent ar ôl y saint y buont yn ddisgyblion iddynt Ar ôl y seintiau hyn y daeth yr enwocaf o'r seintiau Cymraeg, Dewi Cymaint oedd ei glod ef fel, erbyn dechrau'r ddeuddegfed ganrif, y daethai Tŷ Ddewi yn eglwys y cyrchai iddi bererinion o bob rhan o'r wlad, ac yr oedd dwy bererindod i Dŷ Ddewi yn cael eu cyfrif o'r un gwerth ag un i Rufain.
Y mae'r Athro Glanmor Williams yn cytuno â'r farn a fynegodd y diweddar R. T. Jenkins yn y Bywgraffiadur am de Gower, "Ei haelioni a'i ysblander fel adeiladydd yw ei glod pennaf", ond y mae am ychwanegu fod Gower, yn ogystal â bod yn wr dysgedig, yn esgob cydwybodol.
Roedd yna ddigon o glod i Gymru, felly ond wedi dweud hynny doeddan nhw ddim yn sgorio'n ddigon isel.
Haedda T Gwynn Jones glod arbennig am ganfod natur eithriadol ' rhieingerddi', chwedl ynatu, ac am dynnu sylw atynt.
Daw'r adran i ben yn hollol ffurfiol â brawddeg glo draddodiadol, a blwyddyn a dwy a thair y bu ef yn hynny onid oedd ei glod wedi ehedeg dros wyneb y deyrnas, ac y mae'r awdur wedi llwyddo i adrodd anturiaethau sy'n dechrau heb gyswllt â'i gilydd ond sy'n cad eu tynnu o wahanol gyfeiriadau yn un hanes cyflawn a gorffenedig.
ARWYR GLEW ERWAU'R GLO 'Caner, a rhodder iddo - glod dibrin Y werin a'i caro: Nydder y mawl a haeddo I arwr glew erwau'r glo.'
Mae'n glod i Arolygwyr Ei Mawrhydi, fel Cassie Davies a Margaret Jenkins, iddynt ddyblu eu gweithgarwch ar ôl gwrthodiad eu meistri.
Cadwai Syr John Wynn dŷ yng Nghaernarfon, canolfan weinyddol yr hen Dywysogaeth yn y gogledd, ac uchel yw ei glod i'r dref honno fel y bu tua chanol y bymthegfed ganrif.
Mae'n glod i Dr Morgan ei fod yn crynhoi'r dystiolaeth ar y pen hwn gyda'r fath gydbwysedd.
Y mae ei gamgymeriadau, meddai, 'yn difwyno llyfr hanes sydd, mewn cyfeiriadau eraill, yn gampus.' Y mae David Powel yntau yn cydnabod bod peth sail i'r amheuon ynghylch bodolaeth Arthur, un o gonglfeini'r hanes Brytanaidd, yn ogymaint a'i fod wedi'i gymysgu a 'ffug-chwedlau' a 'phroffwydoliaethau ynfyd Myrddin', ond eto i gyd, deil yn gadarn ei gred yng ngwirionedd sylfaenol yr hanes: 'y mae'n glir nid yn unig wrth y llu hen gofebau sydd wedi cael eu henw oddi wrth Arthur, ond hefyd wrth yr hanesion Sgotaidd a Sacsonaidd ac ysgrifeniadau'r mwyaf dysgedig ymhlith amddiffynwyr yr hanes hwn, fod yr Arthur hwnnw wedi bod yn frenin ar Brydain, yn ddyn amlwg ei glod mewn rhyfel, ac iddo'n fynych fod yn fuddugoliaethus ar ei elynion trwy ei gampau tra rhagorol'.