Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gloff

gloff

Roedd gan Eds un anfantais fawr, sef ei fod yn gloff.

Steve yn trin traed yr hyrddod i sicrhau na fyddant yn rhy gloff i weithio yn yr hydref.

O'r Alban yr oeddwn i wedi dod i Rydychen, ac yr oedd pobl y gogledd wedi gofalu amdanaf Pe buasai raid i mi fel llawer Cymro arall, ddibynnu ar garedigrwydd fy nghyd Cymry wedi dod i Rydychen am gyfeillach a chyfarwyddyd,buaswn mor unig â hen frân gloff ar yr adlodd.

Dôi ambell i filwr adre o'r rhyfel yn gloff, yn brin o fraich ac weithiau'n ddall ond arwydd o statws oedd hynny.

Wrth syllu draw dros yr harbwr tua'r môr, teimlai yn ei gwaed mai yn y pellter glas yr oedd ei rhieni'n ei haros a hithau'n methu â mynd atynt, yn cael ei chadw fel gwylan gloff mewn honglad o hen dŷ ar astell y graig a hithau yn ysu am fynd ond yn methu â chodi ar ei haden, yn cael ei chlymu wrth ei thaid a'i nain am iddynt ei magu.

Dywed mai o'r Alban yr oedd ef wedi cyrraedd Rhydychen ac mai pobl yr Alban a oedd wedi gofalu amdano; oni bai amdanynt hwy, mi fuasai wedi bod fel 'brân gloff ar yr adlodd oblegid 'nid oedd y Cymry wedi arfer ymgyfarfod, ac ychydig iawn o drafferth oedd neb yn gymeryd i ddangos mai Cymro oedd' Y gwir yw, petasai OM wedi mynd o Aberystwyth yn syth i Rydychen yn hytrach na via Glasgow, mi fuasai wedi bod ymhlith cyd Gymry o'r dechrau cyntaf, ac odid na fuasai wedi clywed am Glwb Coleg Aberystwyth.

Hwn oedd y gŵr hynaf yn y dref, bellach yn grwm ac yn gloff gan ei oedran ond roedd pawb yn ei barchu o hyd.

Roedd y dyn a gerddodd tuag ati i dderbyn ei fedal braidd yn gloff.