Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

glos

glos

Mewn rhai ardaloedd byddent yn cydweithio'n glos â'r streicwyr trafnidiol, er enghraifft, gan wrthod trin nwyddau wedi'u pardduo.

Yn wir, mae'n bartneriaeth glos iawn gan y treiddia'r ffwng i gelloedd y gwreiddyn a chydfyw am oes â'r planhigyn.

Er fod y cylchgronau hyn wedi eu huniaethu'n glos a'r enwadau a'u noddai hwynt, eto nid enwadol a chrefyddol yn ynig oeddynt o ran cynnwys.

Mi adawn y llwybr yma a dringo'r llethr glos ar y dde i gyrraedd Llwybr Pyg a throi yn ôl tua'r dechrau, gan edrych i lawr ar y llynnoedd yn awr.

eu cymorth a'u cefnogaeth a mynegodd ei bleser ar gael cysylltiad mor glos a'r cwmni%au yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd yr Is-bwyllgor Cymraeg.

Dyna fe, ddarllenydd - yn llafn main, tal, teneu, gwledig, - mewn gwisg ddiaddurn a digon cyffredin yn dyfod trwy ddrws y capel - am dano y mae coat winlliw o frethyn gwlad wedi ei wau yn lled fras, a hono wedi gweled ei dyddiau goreu; ac oblegid ei fod wedi tyfu ar ol ei chael, edrychai yn fer a chwta - gwasgod o stwff ac un rhes o fotymau yn cau i fynu yn y glos am ddolen ei gadach India oedd yn dorch am ei wddf - llodrau o ffustian rhesog; a phar o esgidiau mawrion cryfion, gyda dwbl wadnau am ei draed, wedi eu pedoli yn ol ac yn mlaen; a'u llenwi â hoelion, ac ymylau hoelion y rhesau allanol yn amgylchu ymyl y gwadnau, fel y gallesid tybio y buasai eu cario yn ddigon o faich i unrhyw ddyn, heb sôn am gerdded ynddynt.

Dyma'r math o gymdeithas, a fodelwyd yn glos ar y gymdeithas yn 'yr hen wlad'; y ceisiodd y wasg ei gwasanaethu, ac nid yw'n syn mai'r cylchgronau enwadol a lwyddodd orau, fel yng Nghymru ei hun.

Y mae dyn yn rhydd i chwalu cymdeithas; y mae ganddo hefyd y gallu, mewn cyd- weithrediad â'i gyd-ddynion, i lunio amodau cymdeithas glos a llewyrchus.

Tuedd yr Esgob Morgan mewn rhai mannau oedd cadw'n rhy glos at yr idiom Hebraeg.

Ac felly y lluniwyd trefniadaeth glos a oedd cyn bo hir, gyda chynnydd y mudiad, i greu rhywbeth tebyg iawn i enwad.

Am ryw reswm meddyliodd yn sydyn am Ellis Puw, a theimlodd ar y funud ei fod yn nes at ei was yn ei glos ffustian a'i grys gwlân nag yr oedd at y boneddigion hyn yn chwyrli%o o'i gwmpas yn eu sidanau a'u melfed a'u lliwiau llachar, a'u dwndrio a'u chwerthin.

Gwir mai'r clwb lleol ple mae'r aelodau yn cyfarfod yn gyson o wythnos i wythnos yw pwerdy'r mudiad - yno y ceir y gyfathrach glos, yno y ceir y gwmni%aeth ddiddan, ond y perygl o gadw o fewn muriau'r clwb lleol yw i'r aelodaeth ddiflasu gan nad oes sialens ychwanegol iddynt.

Cynhyrchwyd hanes pwerus o gariad anghyfreithlon yn erbyn cefndir o gymuned glos, The Passion, ar ran BBC Cymru gan First Choice gyda Gina McKee (wyneb cyfarwydd o Our Friends in the North). Cafwyd edmygaeth gyffredinol i'r cynhyrchiad cymhellol hwn.

Meddyliwch am yrru o Fachynlleth i Ddolgellau, a rhes o garafanau yn ymlusgo o'n blaenau, yn cadw'n glos at ei gilydd heb adael lle i neb basio.

Rhaid dringo tipyn eto i gyrraedd yr uchaf o'r tri llyn, Glaslyn, sy'n swatio'n glos yng nghesail copa'r Wyddfa.

Er bod Cymdeithas Tai Eryri bellach wedi tyfu i fod sawl gwaith maint Tai Gwynedd mewn telerau adnoddau a rhaglen ddatblygu, cedwir perthynas glos a buddiol rhyngddynt.

Ergyd arswydus sydd i englynion Williams Parry, ond yma mae'n fater o gyfleu'r berthynas glos rhwng y tad a'r mab, fel petai Siôn yn dal i fodoli yn ymwybyddiaeth ei dad - ymdeimlad sy'n gwbl ddilys yn seicolegol wrth gwrs.

Gorweddai Rex yn glos wrth ei feistr ar y gwely.

Ond 'rwy'n siwr y bydd yr aelodau o'r gymdeithas glos a dyfodd o'i gwmpas yn Nhalgarreg dros nifer o flynyddoedd, yn diolch am byth am y fraint o gael ei adnabod.

Ni ellir dibrisio 'lleoliaeth' a'r syniad o berthyn yn glos iawn i ardal neu gymdogaeth ymysg ysweiniaid y ddwy ganrif hynny.

Credai hefyd - fel y dywedodd wrthyf droeon - ei fod wedi darganfod y gymdeithas ddelfrydol ymysg ffermwyr Sir Benfro - lle'r oedd cyd-weithio a chyd-lawenhau, heb sôn am gyd-ddioddef, wedi ei gwneud yn gymdeithas glos, lawen a chydweithredol.

'Pedwar hygar rhywiogaidd', meddai, 'Llunon teg oll yn un ty' - enghraifft hynod o'r gyfathrach glos a allai ffynnu mewn perthynas deuluol.

Oherwydd hyn mae'n mynd i fod yn gêm glos ac yn gêm galed.

Mae'r holl ddarn yma o'r ewyllys yn dangos mor glos erbyn hyn oedd y cydweithio rhwng personiaid a sgweiriaid.

"Cadwch yn glos ar y palmant," meddai Huw, "cofiwch eich bod wedi colli'r arfer o gerdded mewn tre, a thraffig, wedi bod ar yr ynys cyhyd."

"Ond chwarae teg iddyn nhw, cadwent yn glos wrthym ni'n dau rhag ofn i rywun neu rywbeth ddod i'n rhwystro rhag mynd yn ein blaenau." "Ddaru chi lwyddo i gadw'n effro wedyn?" gofynnodd Louis.

Nid cyfieithu syml sydd yma, ond ailgreu gwir awenyddol, a hynny gan gadw'n bur glos at y gwreiddiol.

Mae ei phrif sianel yn glynu'n glos wrth lan orllewinol yr aber, ac ar ôl iddi fynd heibio i Ddinas Llwyd mae'n ymdoddi i'r môr ym Mae Malltraeth

Ac yr oedd hi'n anos byth i'r bardd ymwrthod a'r drefn, oherwydd fod gwerthoedd Anghydffurfiaeth Gristnogol wedi eu gweu mor glos i mewn i batrwm Cymreictod a gwerthoedd hwnnw, nes peri ei bod yn amhosibl bron ymryddhau oddi wrth y naill, heb ar yr un ergyd danseilio'r llall.

Cyn dyfeisio peiriant torri lawntiau defnyddid gwyddau i gadw tyfiant glaswellt i lawr, mae hwythau hefyd yn pori'n glos i wyneb y ddaear.