Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

glowyr

glowyr

Ac fe ddaeth y dydd pan godwyd baneri ar ben pob glofa, uwch y ddrifft hon, a'r pwll acw, ac fe dynnwyd lluniau'r glowyr buddugoliaethus, gwynder eu gwenau yn hollti'r du%wch a orchuddiai'u hwynebau, yn dathlu'r dydd pan ddaeth y cyfan oll yn eiddo i blant yr addewid.

Ond i ddod yn ol at Streic y Glowyr.

Glowyr De Cymru yn cytuno i ffurfio'r NUM a dod â dyddiau'r 'Fed' i ben.

Petai rhywrai'n digwydd gweld y ffilm hon ar ei hanner, a'r olygfa o'r gweithlu ym mol buwch y sinema, oll yn eu lifrai gwynion a'u helmedau lampiog a'u lanternau yn eu dwylo, gellid maddau iddynt am dybio mai glowyr oedd ar y sgrin.

Ac i'r glowyr, oedd wedi brwydro mor hir ac mor ddygn yn erbyn eu meistri, yr oeddynt ar drothwy'r fuddugoliaeth fawr.

'Nid dyn yw e, ond Sais', meddai glowyr y fro wrth durio'n chwyslyd am 'ddiemwnt du' dros eu meistr estron.

Edrychodd rhai ar yr enwau a welwyd ar restr aelodau'r byrddau rheoli a oedd yn mynd i drefnu a chynnal y diwydiant drostynt hwy - y glowyr.

Glowyr yn derbyn codiad cyflog o 35%.

Erbyn Tachwedd 'roedd y Bwrdd Glo yn honni fod 55 o'r 174 o byllau yn gweithio, a phenderfynodd glowyr Gogledd Cymru ddod â'r streic i ben.

Blwyddyn streic y glowyr.

Estynnodd Ffederasiynau Glowyr De Cymru a Phrydain Fawr gymorth ariannol i'r streicwyr.

'Roedd y glowyr yn ceisio atal 'cynffonwyr' rhag torri'r streic; ymoso~odd-yr heddlu yn wyllt ar y picedwyr, gan bwnio un ohonynt yn gelain.

Dywed y gall Eisteddfod y Glowyr fod o gymorth i lenwi'r bwlch.

Mynnodd rhain gloddio drifft newydd i lawr i'r Gwscwm, ymhen amser, a chwmni arall a ddaeth o Loegr, sef y Pembertons, tua diwedd y ganrif, yn suddo drifft yng nghanol Porth Tywyn, ac yn nes ymlaen roed y glowyr yn y ddau waith hyn yn gweithio o dan y môr.

"...sialens i awduron o'u gallu a'u profiad hwy yw dal dros fyth mewn geiriau gamp a rhemp glowyr y Gogledd," meddai.

Er gwaethaf apÍl gan eu harweinydd, Joe Gormley, y glowyr yn hawlio cyflog o £135 am wythnos bedwar diwrnod o waith.

Ymhen tri mis, cerddasai glowyr pob un o lofeydd y Cambrian ma's yng Nghanol y Rhondda, er dangos cydymlyniad â dynion Ela/ i.

Y glowyr yn rhoi'r gorau i'w streic a chael 35% o godiad cyflog.

Hoffwn weld Cyngor Wrecsam yn galw pobl y Rhos, Undeb y Glowyr, ac Undebau'r cylch at ei gilydd i fynd ati i achub y Stwit.

Bu terfysgoedd o amgylch Trimsaran ym mis Ionawr, gyda'r glowyr yn gwrthdaro â'r heddlu.

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol Chwech yn marw wedi ymosodiadau treisgar yn ystod streic y glowyr yn Llanelli.

Glowyr yn derbyn codiad cyflog o 35%. Pleidlais yn penderfynu y dylai Prydain aros yn y Farchnad Gyffredin.

Ac wrth reswm, yr oedd ysbryd herfeiddiol y glowyr yn ganlyniad nid yn unig i'r tipyn chwerwedd ynghylch y plocynnau pren ond hefyd i annhegwch didostur holl amgylchiadau eu llafur a'u tal.

Y mae llawer o'r bobl hynny y meddylir amdanynt fel Cymry - glowyr y de er enghraifft - yn ddisgynyddion i Saeson a ddaeth yma i weithio yn nyddiau'r chwyldro diwydiannol.

A yw hi'n rhy hwyr i Eisteddfod y Glowyr wneud cynhyrchu llenyddiaeth o bwys am fywyd y glowr yn briod bwrpas iddi?

Roedd y gyfres 17 rhan yn edrych yn ôl ar y 1,000 o flynyddoedd diwethaf yng Nghymru a arweiniai at 1985 pan gynrychiolodd diwedd streic y glowyr guriadau olaf calon ddiwydiannol y wlad.

81% o lowyr yn pleidleisio dros streic genedlaethol ym Mis Mawrth a'r Prif Weinidog, Ted Heath, yn galw Etholiad Cyffredinol i benderfynu pwy sydd yn rheoli'r wlad, 'y Llywodraeth ynteu'r glowyr'.

Enwau ar yr haenau o lo sy'n britho'r ardal ydynt, wrth gwrs, ac er bod y mwyafrif llethol o lofeydd y gymdogaeth bellach wedi cau, y mae enwau'r gwythiennau glo yn dal ar dafod leferydd glowyr y fro.

Diweithdra yn codi'n uwch na miliwn Y Llywodraeth yn troi'r wythnos waith yn dri diwrnod oherwydd streic y glowyr.

Pob pwll ar gau oherwydd streic y glowyr.

Dywedodd Emlyn Williams, Llywydd Glowyr De Cymru, nad oedd yn cytuno â thactegau Scargill, ac fe'i rhybuddiodd i gadw draw.

Parhaodd hyn trwy gydol y rhyfel, ond gyda hyn o ddirywiad yn y sefyllfa: perswadiwyd glowyr Cymru i fynd i'r lluoedd arfog wrth yr ugeiniau o filoedd a chymerwyd eu lle gan Saeson a mewnfudwyr eraill.

Mae Hywel Teifi Edwards hefyd yn gweld gwersi yn y driniaeth o'r glowyr.

Mynnodd rhain gloddio drifft newydd i lawr i'r Gwscwm, ymhen amser, a chwmni arall a ddaeth o Loegr, sef y Pembertons, tua diwedd y ganrif, yn suddo drifft yng nghanol Porth Tywyn, ac yn nes ymlaen roedd y glowyr yn y ddau waith hyn yn gweithio o dan y môr.

Ffurfiwyd Ffederasiwn Glowyr Prydain Fawr yng Nghasnewydd ddeng mlynedd cyn troad y ganrif.

Glowyr De Cymru yn mynd ar streic i ennill rhagor o gyflog.

Streic y glowyr yn cychwyn, y streic genedlaethol gyntaf i'w chynnal gan y glowyr ers 1962.

Mae'n wir fod brenin a brenhines newydd ar orsedd Lloegr, Sior y Pumed a'r Frenhines Mari, ac Amundsen o fewn ychydig dros fis i gyrraedd Pegwn y Deau; ond yr oedd Streic y Plocyn wedi gwneud bywyd yn anodd i'r glowyr a'u teuluoedd, y streic a geisiau sefydlu hawl y glowr i fynd a phlocynnau pren diangen adref o'r pyllau glo, y plocynnau pren a hwylusai'r dasg o gynnau tan yng ngrat y gegin.

Ni lwyddodd ychwaith i wir gyfleu ing a chyni glowyr De Cymru.

Heb os nac onibai fe welwn yn fuan broffwydoliaeth arweinyddion Undeb y Glowyr yn cael ei wireddu, gyda mwy a mwy o weithfeydd yn cau am nad ydynt yn ddigon 'Proffidiol'.

Y Streic Gyffredinol yn parhau o Fai 3 hyd at Fai 12, ond y glowyr yn dal ar streic hyd Dachwedd.

Serch hynny, roedd y diwydiant yn dal yn bwysig yng Nghymru tan y 1980au, fel y gwelwyd adeg streiciau'r glowyr yn 1973 ac 1974 ac yn fwy fyth yn adeg streic 1984-85.

Ethol Arthur Scargill yn arweinydd y glowyr.

Glowyr De Cymru yn streicio am dri mis.

AI O fro Daniel Owen y daw nofelydd mawr glowyr Cymru?

Nid yw'r cyfryngau mor barod i ddatgan pryder y Glowyr hyn am ddyfodol eu cymdeithasau glofaol.

Ond cloasid glowyr Trimsaran maes naw mis ynghynt, wedi iddynt ballu derbyn rhestr newydd o daliadau gan y cwmni am fwyngloddio gwythi%en ffres.

Wedi ymdrech a barhaodd am flwyddyn, a chreu chwerwder mawr, daeth streic y glowyr i ben ym mis Mawrth.

(A oes gwahaniaeth rhwng gyrru cynrychiolydd i Gynhadledd Flynyddol Doriaidd a Cynhadledd Flynyddol y Glowyr?) Tybiwn i mai cynrychioli eu cangen leol y mae yn y ddau achos?

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol 81% o lowyr yn pleidleisio dros streic genedlaethol ym Mis Mawrth a'r Prif Weinidog, Ted Heath, yn galw Etholiad Cyffredinol i benderfynu pwy sydd yn rheoli'r wlad, 'y Llywodraeth ynteu'r glowyr'.

Cyflwynodd Mabon a Ffederasiwn Glowyr De Cymru dystiolaeth fanwl am weithredoedd bwystfilaidd y polîs, ond yn wastad cawsant ateb pendant a boneddigaidd oddi wrth Churchill: 'Na', nid oedd sail ddigonol i gyfiawnhau cynnal Ymchwiliad Cyhoeddus.

Taniwyd y wreichionen gyntaf ym Mhwll Ela/ i ger Pen-y-graig, yn y Rhondda, pan gaewyd y glowyr allan gan Gwmni'r Cambrian a'i bennaeth DA Thomas (cyn-Aelod Seneddol o Ryddfrydwr), wedi i'r dynion fynnu rhagor o arian am weithio mewn 'mannau anghyffredin'.

Polisi tra gwahanol oedd ar dafod arweinydd glowyr Aberdâr, Charles Stanton: rhaid cynnull 'brigâd ymladdgar o lowyr' i herio trais yr heddlu a thrais y dosbarth llywodraethol, taranai.

Chwech yn marw wedi ymosodiadau treisgar yn ystod streic y glowyr yn Llanelli.

Lenin yn ystyried mai glowyr De Cymru oedd byddin flaen y Chwyldro.

Clywsom am stgreic deintyddion, docwyr, meddygon, dynion tan, gwyr ambiwlans, trydanwyr, dynion lludw, glowyr, plismyn, athrawon, pobl y wasg, gweinyddwyr amlosgfa, prin fod un swydd a phroffesion na bu defnyddio ganddi ar erfyn streic.

Nid oedd cymaint â hynny o enwau glowyr yno, nid oedd neb o deulu Nant y Gro, dim un o deulu'r Culheol ac Oakvilla a Thre'r Gât, ond roedd yna enwau dwbwl baril, enwau gyda Syr ac Arglwydd o'u blaen ac ni chollodd yr un o weision y Powell-Dyffryn, a'r Amalgamated Anthracite gyfle i fod yn aelod o'r Byrddau rheoli.