Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gludo

gludo

Brefodd y llall naw gwaith a holltodd y graig nes ei gwneud yn haws iddo ef gludo'r llwyth.

Mae'r gofod - dyna yw'r 'nef' yn y fan hyn - yn gwbl fud am nad oes awyr yno i gludo tonfeddi sain.

Yr oedd bob amser yn sgwrsiwr brwdfrydig - er mawr bryder i'r sawl oedd yn cael ei gludo yn ei gar!

Nid llyfr i gasglu llofnodau mohono, i'w gludo i eisteddfod a sioe a sasiwn.

Roedd yn llythrennol yn rhoi ei droed ar awyren a fyddai'n ei gludo ar daith rygbi i'r Unol Daleithiau pan alwyd arno i fynd i Irac.

Rhoddodd y galw mawr am lechi Gogledd Cymru yn ystod y ganrif ddiwethaf gyfle i'r ardal ddatblygu fel man allforio unigryw ac, oherwydd pwysau a maint y cynnyrch, y llongau hwylio a ddarparai'r dull gorau o gludo.

Torri a Gludo Dewiswch y geiriau go iawn trwy osod y cyrchwr o'u blaen a llusgo ar draws y geiriau.

O ganlyniad i hyn, bydd y gwastraff yn cael ei gludo i safle Cilgwyn, a fydd yn arwain at Lwyn Isaf gael ei gau mewn amser.

'Pan fyddwn ni wedi ei orffan o, mi fydd yr aer sy'n cael ei gludo gan y pryfaid cop yn llenwi hannar y palas, ac mi fydd digon o le i ni'r chwilod pwysig gysgu yma drwy'r nos.

Felly ar y daith hon nid oeddem i gludo unrhyw beth anghyfreithlon i mewn i'r wlad gyda ni.

Dylid creu strategaeth a Chynllun Datblygu Clwstwr a'i gyflwyno i rieni a'r gymuned i geisio cynigion o gymorth o ran codi arian ar gyfer bws mini a dulliau eraill o gludo plant o adeilad i adeilad ac i hybu ymateb o ran addysg gymunedol.

Gellir defnyddio Copy a Paste (copo\o a gludo) neu Cut a Paste (torri a gludo) i symud testun neu ddiagram o un rhan o'r ddogfen i'r llall (neu o un ddogfen i ddogfen arall) trwy'r Clipfwrdd.

Dringodd yn flinedig i fyny'r stepiau gan gludo siwrnai o ddwr berwedig, wedi oeri, i'w ganlyn.

Oherwydd newidiadau staffio nid oedd angen y gwasanaeth mwyach i gludo'r criw yn ôl i Fachynlleth.

Bob tro yr agorem ddrws ein gwesty yn Siem Reap fe'n cipiwyd i fyny ar amrantiad i ganol haid o feicwyr ieuainc stwrllyd a chanddynt foduron ar eu beiciau a cherbyd bach ynghlwm wrth bob beic i gludo teithwyr oddi amgylch.

Penderfyna Tref werthu ei gar i dalu'r ddyled hon - ond penderfyna'r Mini bach dorri i lawr a rhaid talu'n hytrach am ei gludo i ebargofiant.

Unwaith oedd mam yn sâl, a dad yn mynd i nol y doctor gyda deffyl yn arwain i'w gludo.

Oherwydd i rywun golli'r lluniau i'w gludo ar y pas i'r lifft sgio rhaid aros am ddwy awr.

Yn ôl un stori, defnyddid dau ych i gludo'r cerrig o Graig y Foelallt.

Er bod swyddogion yn honni bod cyfleusterau "gwych" yno, doedd dim trefniadau pendant ddechrau'r wythnos i gludo pobol yn ôl ac ymlaen.

Fe hedfanaf i uwchben y cawr a'i gludo'n saff i ti i'r ochr draw.'

Awtomeiddir y diwydiant gyda'r ford mesur-a-pwyso a'r llinell gynhyrchu: 'Rhagor o fasgedi - row G', Dros nos gwelwn Tref yn magu asgwrn cefn a balchder personol yn ogystal a digywileidd-dra wrth dynnu sylw hafing y warden traffig (awdurdod) oddi wrth y lori gludo!

Mae'n dweud hefyd fod corff Owain wedi'i gludo i eglwys St Leger gerllaw i'w gladdu.

Gall yr Airbus gludo 37 tunnell am 5000 km, neu hyd at 140 parasiwtydd.

Cludwyd ef i'r pedwar ban gan unigolion a grwpiau o bobl heintiedig sy'n ei gludo o'r naill wlad i'r llall, ac sydd felly'n heintio eraill yn eu cynefin newydd.

"Tal Cyfleusterau% Holl gostau argraffu dyblygu prosesu ac unrhyw gost labordy arall a ddaw i ran yr Archif wrth ddarparu'r Deunydd gan gynnwys heb gyfyngiad unrhyw gostau cludo llwytho ac yswiriant a ddaw i ran yr Archif wrth gludo'r Gwaith a'r Deunydd i'r labordy ac oddi yno.

Clymwyd y bocs wrth sedd yr injan a neidiodd Wil i mewn wedi ei sicrhau gan ei feistr y byddai'n cael ei gludo'n ddiogel y tu ol i'r injan.

Diolch yn fawr i Sioned Elin a Branwen Nicholas am gludo'r neges ar ein rhan ni ac ar ran y miloedd ar filoedd arwyddodd y ddeiseb.

Does dim rhaid ichi ychwaith boeni am na phapur lapio na selotêp na stamp na dosbarthu gan y bydd popeth yn cael ei lapio ichi ai gludo i ben ei daith.

Gellir defnyddio'r ffibr felly fel gwifren i gludo goleuni.

Er i reilffordd, - boed honno'n llinell gul neu n llinell letach, - ddod i gludo cynnyrch y chwareli yn y man a dim galw mwy am y ceffyl ynglŷn â hynny o waith, roedd yna lawer o geffylau yn gweithio tu fewn i'r chwareli, yn llusgo wagenni a sledi - yn llwythog neu fel arall - ar y ffyrdd haearn a oedd yn gwau ac yn cyrraedd i bob twll a chongl mewn chwarel.

Buon nhw hefyd yn disgrifio sut y byddai'r Orange Bowl enwog yn cael ei defnyddio i gludo darllediadau lloeren byw o'r ynys rydd, a sut y byddai Miami gyfan yn un carnifal mawr am ddyddiau.

Ac mi gafodd dyn 81 oed ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan am driniaeth ar ôl damwain rhwng car a thractor rhwng Rhuthun a'r Wyddgrug.

galwasant a galwasant, a 'u pryder yn graddol droi 'n ddychryn, a 'u lleisiau 'n mynd yn sgrech, a 'r tri 'n rhedeg i fyny ac i lawr y lan gan chwilio yma a chwilio acw, ond yn gwybod yn dda y gallai llifeiriant gwyllt fel hwn daflu ffred a 'i gludo ymaith mewn chwinciad.