Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

glwy

glwy

Piti na fyddai'n clafychu am rywbeth ych-a-fi a fyddai'n ei hagru hi; fel pla o blorod neu ddôs o glwy'r pennau.

Mae'r hen fyd 'ma wedi mynd yn rhy faterol; aeth hunanoldeb yn rhemp ac yn glwy cymdeithasol.

A'r nos a'i lluoedd ser a'i lleddfol si, Ei gwlith a'i haden lwyd a'i dwyfol daw, Ni chawn i weini a'i heneidiol glwy; Ond gwyllt ymwibiai rheswm yma a thraw Drwy'r cread mawr a thrwy'r diddymdra mwy, Nes dyfod Cwsg ac Angau law yn llaw, I'm hudo dan eu du adennydd hwy.

Yn fynych iawn, un o'r pethau cyntaf a wnaethpwyd i fuwch a ddioddai o glwy'r llaeth oedd tynnu pedwar neu bum chwart o waed!

Cafodd yr achos cynta o glwy'r traed a'r genau yn Ffrainc ei gadarnhau ddoe.