Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

glymu

glymu

Ar y llaw arall, os ydych chi'n credu yng ngwyrth creu'r byd, yn credu bod Duw wedi rhoi ei unig blentyn yn rhodd i geisio achub dynoliaeth, a chredu bod y Nadolig, boed y dyddiad yn gywir ai peidio, yn gyfnod o glymu hyn, a'r byd a'i bethau yn glosiach at ei gilydd, yna nid peth gwirion ydi meddwl bod gan pawb a phopeth ar wyneb y ddaear ran yn yr ŵyl.

A chlywed am yr hwch a'i pherchennog wnaeth o, ar y cynta', yn hytrach na'u gweld nhw, ac o ganlyniad, bu'n rhaid i'r ddau duthio ar ôl y bus am gryn hanner canllath neu well cyn cael mynediad iddo.) Gwaith digon dyrys oedd cael hwch i ddal bus o dan amgylchiadau cyffredin ond pan oedd honno â'i hanner ôl wedi'i glymu mewn bag peilliad roedd y gorchwyl yn anos fyth.

Neu wedi ei glymu mewn rhyw ffordd.

Roedd llinyn pysgota dau gant saith deg troedfedd o hyd wedi cael ei glymu wrth y saeth - ac roedd ganddyn nhw ffrind ar ochr orllewinol y wal yn aros i'w helpu nhw i ddianc.

Mynegodd ef ei argyhoeddiad, a'i ddilyn gan bob beirniad o bwys, mai'r bardd yw'r un â'r gallu ganddo i feddwl yn drosiadol, i glymu dau argraff efo'i gilydd yn undod clos - i weld henaint yn ddeilen grin ar drugaredd gwynt, i weld bedwen yn lleian, i glywed cân ceiliog yn y pellter yn dristwch mwyn hiraeth, i deimlo yn hen gapel gwag, i droi Angau yn weinidog yn dod i'w gyhoeddiad.

Mae i bob Si bedwar electron allanol neu electronau falens ac mae'r electronau hyn yn gyfrifol am glymu'r atomau yn ei gilydd fel bod dau electron ym mhob un o'r bondiau rhwng yr atomau.

Gan glymu un pen i'r rhaff o gwmpas boncyff coeden gollyngodd ei hun i mewn i'r twll du, drewllyd.

Roedd ei gwallt yn ôl y tro yma, wedi ei glymu y tu ôl i'w phen.

Nid yw'r tomato'n ddringwr naturiol, felly mae'n rhaid ei gynnal â chansen, neu gortyn wedi ei glymu wrth do'r tŷ.

Mae'r cynnwrf yn cychwyn hyd at ddwyawr cyn y gystadleuaeth ei hun a'r teirw yn cyrraedd fesul un a dau - rhai ar gefn pick-ups bach, eraill yn cael eu cerdded ond pob un yn cael ei dywys i'w le bach ei hun lle mae'n cael ei glymu rhwng dwy goeden.

Cytunodd pawb y dylai'r llofrudd gael ei glymu wrth goeden a'i saethu.

Cymer hefyd ychydig bach ohono a'i glymu yng ngodre dy wisg.

Fe roddir rhwymau amdanat ti, fab dyn, a'th glymu â hwy fel na elli fynd allan ymysg dy bobl.

Bob nos Sadwrn fe fyddai Mati'n gwisgo'i gêr arferol þ hen gôt racslyd a llinyn wedi'i glymu am ei chanol; het dyllog; trowsus ribs; blewyn o wair yng nghornel ei cheg.