Diddorol fyddai enwi ychydig o'r rhai mwyaf adnabyddus, megis Dafydd Cwm-garw, Siôn Cwm-garw, William Pistyll- llwyd, Dafydd Cae-glas, Hezekiah Cwm-garw, Siôn Cwm-teg, Pegi o'r Ffarmers, Nansen Pantycelyn, Watkin y Croffte, Dafydd Glynbeudy, Daniel o'r Bryn, William Penygraig, Angharad Azariah, Rachel William y gof, a llawer eraill ar hyd y cymdogaethau cyfagos.
Ond pe gofynnech iddo ymhle mae'r Wythi%en Fawr ond odid mai eich cyfeirio i bentref Brynaman a wnâi, gan restru enwau tyddynnod a mân ffermydd fel Pen-y-graig Glynbeudy, Cwm-garw a'r Croffte, oblegid teulu a wnaeth gyfraniad sylweddol i'r diwylliant brodorol a chenedlaethol yw'r Wythi%en Fawr.