Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

glynu

glynu

Nid ein bod yn chwilio am fargen wrth gwrs, gan fod y bachyn tynnu yn un o'r ategolion pwysicaf y byddwch yn eu prynu.Gwell glynu at rai o'r gwneuthurwyr mwyaf adnabyddus, megis Witter, sy'n darparu gwahanol fodelau ar gyfer gwahanol geir.

"Y polisi mwya' effeithiol yw glynu at yr egwyddor fod pawb yn adnabod pawb; mae'n well na dibynnu ar dechnoleg yn unig." Ar ôl Nottingham, mae Ysbyty Mynydd Bychan, o leia', yn gwneud yn siwr fod unrhyw rybuddion yn mynd i dadau hefyd ...

Mabwysiadu a glynu wrth gôd ymarfer da arfaethedig yr Adran ar yr amgylchedd.

ARGYMHELLWYD bod y Cyngor yn glynu at ei benderfyniad blaenorol y dylid rhoddi hawl i holl staff y cynghorau newydd i sefyll etholiad i fod yn aelodau ohonynt a phwyso am ddiddymu'r gwaharddiad sydd yn bodoli.

Yma mae niwl nychlyd yn gysgod, ond un sy'n glynu fel glud ar groen a dilledyn, ac yn chwyrlio yn chwil o dan y ffroenau cyn ysgubo dafnau cydrhwng gwefusau i ymosod yn ddireidus, fel cusan cariadus, ar y drefn sy'n gyfrifol am gwrs yr anadliad.

Gorwedda'r ddau pollinium sy'n llawn paill ar ffurf pedol uwchben, ac mae'r ddisg ludiog ym môn y goes denau sy'n cynnal y pollinium yn glynu'n dyn yn llygaid mawr y gloyn.

Yn y cyntaf, er enghraifft, ceir peintiad adnabyddus Syr E. J. Poynter, Ffyddlon hyd Angau, llun canwriad Rhufeinig yn glynu wrth ei le pan oedd y diluw tân yn disgyn ar dref Pompeii.

O'r undod teuluol y datblygasai rhwymiadau priodasol i glynu teuluoedd a chynnal trefn a sefydlogrwydd.

Bod yn rhaid glynu wrth y "Traddodiad Gorau% a bod y Datgeiniad i gynhyrchu Cyfalaw, a chymeradwyir datblygu'r gelfyddyd yn gerddorol.

Rhaid glynu'n gyndyn wrth yr egwyddor nad yw byth yn foesol i ysbeilio neb o'i fywyd.

Ac yr oedd Alphonse yn friwiau ac yn waed drosto, gyda llaid yn glynu wrtho.

"Boehme% sydd wedyn a chan mai dyna'r ffurf sy'n digwydd amlaf, gwell glynu wrthi drwodd.

Ydi, mae dylanwad y ffyrdd yn glynu yn y cof hefyd.

Dyna'r fan lle bu : y côr segur, a'r aerwy oer ynghrog ar y buddel, a pheth blew coch yn glynu o hyd wrth ei ddolennau.

Gafaelai'r rhew am ei gorff yr un fath â phawen arth wen yn glynu mewn morlo bach "Helpwch fi, ffrindiau annwyl, helpwch fi!' Ceisiodd Alphonse weiddi, ond syrthiodd yn llonydd ar y ddaear.

Y tebygrwydd yw y byddan nhw'n glynu at naw clwb yn hytrach na'r wyth y mae'r clybiau yn ei ddymuno.

Y ffasiwn ddiweddaraf ynoyw mewnforio crocrotsus o Fadagasgar ac ar ôl glynu darnau o grisial ar eu cefnau eu defnyddio yn froestsus byw gwerth £69 yr un.

Mater o anrhydedd oedd glynu wrth ei ddewis fel gelen.

Mae ei phrif sianel yn glynu'n glos wrth lan orllewinol yr aber, ac ar ôl iddi fynd heibio i Ddinas Llwyd mae'n ymdoddi i'r môr ym Mae Malltraeth

Mae llais ochr arall y ffôn yn ei rybuddio fwy nag unwiath taw annoeth fyddai parhau gyda'r ymchwil, ond mae styfnigrwydd, ymhlith ffactorau eraill, yn sicrhau bod Alun yn glynu'n ddygn at ei stori.

Yr hyn wnaeth inni feddwl fod rhywun heblaw ni wedi bod yno'n ddiweddar oedd darganfod botwm pren yn y twnnel, heb Iwch na dim wedi glynu ynddo .